Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r ddeiseb hon, yn gofyn am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf. Gwelais drosof fy hun effeithiau dinistriol y llifogydd hyn, a heb weithredu cyflym gan ein hawdurdodau rheoli risg a'n gwasanaethau brys, rwy'n sicr y byddem wedi gweld hyd yn oed mwy o gartrefi'n dioddef llifogydd. Rhaid inni gydnabod hefyd sut y diogelodd ein rhwydwaith o amddiffynfeydd filoedd o eiddo, a phwysigrwydd cadw'r strwythurau hyn mewn cyflwr da. Rwyf fi wrth gwrs yn cydnabod yr effaith ar les preswylwyr, yn ogystal â'r effaith ar eu cartrefi a'u busnesau. Mae gwybod sut y bu'n rhaid i'r cymunedau hynny ymdopi wedyn â COVID-19 yn dorcalonnus, ac mae wedi cryfhau fy mwriad i wneud popeth yn ein gallu i helpu i leihau risg yn y dyfodol.
Gweithredodd y Llywodraeth hon yn gyflym ac yn bendant yn ein hymateb i wneud yr atgyweiriadau a'r gwelliannau angenrheidiol. Yn union ar ôl stormydd mis Chwefror, rhoddais gyfle i bob awdurdod rheoli risg wneud cais am gymorth ariannol i wneud gwaith atgyweirio brys ar asedau. Darparais gyllid 100 y cant ar gyfer hyn, sef cyfanswm o £4.6 miliwn. Yn ogystal, darparwyd pecyn ariannu i gefnogi busnesau ac aelwydydd yn uniongyrchol. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.2 miliwn ledled Cymru. Yn RhCT, dyfarnais £1.6 miliwn o gyllid brys i atgyweirio asedau llifogydd a ddifrodwyd, ac roedd hyn yn ychwanegol at y £2.1 miliwn o gyllid grant tuag at amddiffynfeydd a chynlluniau llai ledled y sir.
Rwyf hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer mesurau cydnerthedd eiddo, megis llifddorau, a hyd yma, rwyf wedi dyfarnu dros £1 filiwn ledled Cymru i fod o fudd i hyd at 594 eiddo. Mae hyn yn cynnwys dyfarniad diweddar o dros £300,000 i RhCT ar gyfer 357 o gartrefi.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi cymorth refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol eleni, gan ddarparu hyd at £95,000 yn ychwanegol i bob awdurdod i gefnogi eu gweithgareddau perygl llifogydd ac i helpu i sicrhau bod asedau'n parhau i fod yn wydn dros y gaeaf. Mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol gyda rhagor o fanylion.
Ym mis Hydref, cyhoeddais ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer llifogydd ac mae hon yn cryfhau rolau a chyfrifoldebau ac yn nodi amcanion newydd mewn perthynas â chyfathrebu, cynllunio ac atal. Mae'n annog rheoli llifogydd yn naturiol ac addasu, yn ogystal â mwy o gydweithredu i greu cynlluniau cynaliadwy sy'n sicrhau manteision lles ehangach. Mae'n strategaeth uchelgeisiol ac yn ailddatgan y pwyslais a roddwn ar reoli perygl llifogydd a bygythiad cynyddol newid hinsawdd. Mae hyn yn dilyn newidiadau i'r cyllid a gyhoeddais i roi mwy o gymorth a hyblygrwydd i'n hawdurdodau rheoli risg, gan gynnwys cymorth 100 y cant ar gyfer prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol ac i baratoi achosion busnes ar gyfer cynlluniau llifogydd ac arfordirol newydd.
Rwy'n cytuno'n gryf â chyfraniadau Aelodau o'r Senedd sy'n dweud bod rhaid inni ddysgu'r gwersi o lifogydd mis Chwefror. Rhaid craffu ac ymgysylltu ymhellach â chymunedau yr effeithir arnynt a phawb sy'n wynebu risgiau hinsawdd yng Nghymru. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i lunio adroddiadau sy'n ymchwilio i achosion llifogydd a chyflwyno argymhellion i leihau risg ymhellach, ac mae'r adroddiadau hyn yn ddogfennau cyhoeddus ac yn cael eu paratoi gan dimau o unigolion medrus iawn. Mae'n ymddangos o gyfraniadau gan rai Aelodau nad oes ganddynt hyder yn uniondeb proffesiynol y bobl a fydd yn paratoi'r adroddiad ac nad oes ganddynt hyder yn eu gallu eu hunain a gallu cymunedau i graffu ar eu canfyddiadau. Ond nid wyf yn rhannu'r farn honno, ac mae gennyf hyder llwyr ym mhroffesiynoldeb staff awdurdodau lleol a'u hymrwymiad i ddiogelwch a lles y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Ac os oes gan Aelodau dystiolaeth a fyddai'n bwrw amheuaeth ar y gred honno, mae ganddynt gyfrifoldeb i'w chyflwyno, ond nid wyf wedi clywed unrhyw dystiolaeth o'r fath yn cael ei chynnig hyd yma.
Mae gan yr holl Aelodau o'r Senedd hon rôl i graffu'n fanwl ar yr adroddiadau hynny cyn gynted ag y byddant ar gael a sicrhau bod barn a buddiannau eu hetholwyr yn cael eu cynrychioli. Ac mae gan y Senedd hon rôl i sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi o'r adroddiadau hynny ac yn eu cymhwyso mewn polisi cenedlaethol ac ymarfer gweithredol lleol i gadw Cymru'n ddiogel. Credaf y bydd yr adroddiadau a baratowyd yn broffesiynol ac sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan awdurdodau lleol yn caniatáu inni wneud hynny.
Mae Aelodau etholedig lleol yn RhCT wedi mynd y tu hwnt i hyn i gynhyrchu eu hadroddiad eu hunain, fel y clywsom gan Mick Antoniw, a'i cyd-ysgrifennodd gydag Alex Davies-Jones, yr AS. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir fod trigolion yn gweld nifer o feysydd penodol i'w gwella ac atebion y gallwn eu hystyried nid yn unig i leihau'r perygl o lifogydd, ond i helpu i gefnogi lles ehangach. Mae cyfraniadau o'r math hwn i'w croesawu ac maent yn dangos yn glir y ffyrdd y gall trigolion lleol graffu ar y materion a chyflwyno atebion creadigol ac adeiladol sy'n gweithio iddynt hwy. A gobeithio y bydd Aelodau eraill yn ystyried sut y gallant hwy gefnogi'r cymunedau yn yr un modd i allu gwrthsefyll bygythiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd ac i gymryd mwy o ran yn y materion dan sylw.
Mae CNC, yn ogystal â'i gyfrifoldeb statudol i gynhyrchu ymchwiliadau i lifogydd, wedi cyhoeddi adolygiad llawn ym mis Hydref, gyda chyfres o adroddiadau sy'n rhoi disgrifiad manwl o'r heriau o ran eu hymateb a'u rhagolygon, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n credu y bu ymdrech i fychanu'r heriau a'r meysydd i'w gwella i ddarllen yr adolygiad hwnnw. Mae'n dangos nid yn unig yr ystod o heriau sy'n ein hwynebu a'u difrifoldeb, ond yn fy marn i, ymrwymiad llwyr y sefydliad i fanteisio ar y cyfle nawr i graffu'n gyhoeddus ar yr heriau hyn, i weithio gyda chymunedau i ddod o hyd i atebion gwell ar gyfer y dyfodol. Daethant i'r casgliad clir iawn, nid y dylai'r adroddiad fod yn ddiwedd y sgwrs, ond yn hytrach, fod rhaid i'r sgwrs barhau, a dal ati i ddysgu gwersi'r llifogydd dinistriol a gafwyd ym mis Chwefror ac ystyried yn fwy cyffredinol sut, fel cymdeithas, rydym yn paratoi ar gyfer hinsawdd sy'n newid a'i heffaith ar ein cymunedau yng Nghymru, ac mae hwnnw'n gasgliad rwy'n cytuno'n bendant ag ef ac yn gobeithio y byddai'r Senedd hefyd yn ei gymeradwyo.
Felly, edrychaf ymlaen at weld craffu pellach ar adroddiad yr ymchwiliad i'r llifogydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau o'r Senedd, ynghyd â phartneriaid awdurdodau lleol a chymunedau i ddysgu gwersi llifogydd ofnadwy mis Chwefror ac i baratoi ein hunain yn well ar gyfer yr heriau cynyddol y mae Cymru'n eu hwynebu yn sgil hinsawdd sy'n newid. Diolch.