Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Cyn inni dorri am yr egwyl nawr, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y cynigion ar gyfer dadl y Llywodraeth ar gyfyngiadau coronafeirws newydd a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y coronafeirws, cyfyngiadau mis Rhagfyr, yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân. A oes gwrthwynebiad i hynny? Na, dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad na chlywed gwrthwynebiad, felly bydd yr eitemau yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. Rydym ni'n cymryd egwyl fer nawr i wneud rhai newidiadau yn y Siambr, felly egwyl.