Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig y Llywodraeth ger ein bron a byddaf yn mynd i'r afael â phob un o elfennau cynnig y Llywodraeth yn ei dro.
Yn anffodus, mae coronafeirws yn cyflymu ledled Cymru, gan erydu'r enillion a gafwyd o'r cyfnod atal byr. Mae cyfradd dreigl saith diwrnod y coronafeirws ledled Cymru wedi codi i dros 320 o achosion ym mhob 100,000. Ar 7 Rhagfyr, roedd 1,085 o bobl gydag achosion o'r coronafeirws wedi'i gadarnhau yn ein hysbytai. Bellach mae gennym dros 400 yn fwy o bobl yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin ar gyfer coronafeirws o'i gymharu â'r uchafbwynt ym mis Ebrill. Ni ellir gwadu bod y sefyllfa'n ddifrifol. Mae'n galw am ymateb difrifol a chyfrifol gennym i gyd.
Roedd datganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn nodi'r her gynyddol sy'n ein hwynebu. Nododd yr angen dybryd i gymryd camau pellach wedi'u targedu i ddiogelu iechyd pobl a lleihau cyflymder a lledaeniad y feirws. Dylem gofio bod hwn yn feirws sy'n heintus iawn; mae'n ffynnu pan ddown at ein gilydd. Ac mae perygl amlwg, wrth i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu'r Nadolig, y byddant yn dal neu'n lledaenu'r feirws. Felly, yn unol â'r hyn a ddywedodd y prif swyddog meddygol heddiw, yn y cyfnod cyn 23 Rhagfyr, rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod cyfraddau heintio'n gostwng ac i leihau ein cysylltiadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddar gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE), ac yn enwedig eu cyfarfodydd ar 11 a 19 Tachwedd fel rydym wedi dweud. Amlygodd y rhain effeithiau cadarnhaol mesurau yn system lefel 3 yr Alban a chyfyngiadau haen 3 Lloegr. Roedd gennym lawer o'r rhain eisoes ar waith yng Nghymru ac rydym wedi addasu mesurau eraill ar gyfer Cymru. Dyna pam, o 6 o'r gloch ddydd Gwener, y cyflwynwyd cyfyngiadau cenedlaethol newydd ar gyfer lletygarwch ac atyniadau dan do. Felly, mae'n rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau am 6 p.m. ac ni chânt weini alcohol. Ar ôl 6 p.m. dim ond gwasanaethau tecawê y cânt eu darparu. Mae mesurau tebyg yn berthnasol i haen 3 yn yr Alban. Rhaid cau lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau dan do i ymwelwyr; mae atyniadau awyr agored ar agor ar hyn o bryd. Mae gweddill ein mesurau cenedlaethol yn aros yr un fath, ond nid yw ein neges genedlaethol erioed wedi bod yn bwysicach: mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae os ydym am wrthdroi llif cynyddol y coronafeirws.
Mae rhan olaf cynnig y Llywodraeth yn ymwneud â'r pecyn cymorth pellach gwerth £340 miliwn i fusnesau rydym yn ei wneud drwy'r gronfa cadernid economaidd. Mae hyn yn cynnwys £180 miliwn wedi'i dargedu at fusnesau lletygarwch a thwristiaeth. Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth y DU. Cafwyd nifer fawr o welliannau i gynnig y Llywodraeth ac ni fydd yn bosibl i mi roi sylw manwl i bob un ohonynt, ond rwyf am drafod y themâu y maent yn eu codi.
Ceir tystiolaeth wyddonol ac arsylwadol gynyddol sy'n amlygu rôl lletygarwch yn trosglwyddo clefyd. Cynigiwyd briffiau i lefarwyr iechyd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yr wythnos diwethaf gyda'r prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd. Yn ogystal â hyn, ceir tystiolaeth gynyddol o ymddygiad sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys herio'r rheolau. Mae cyfraddau heintio yn codi ledled Cymru mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol heddiw. Rydym wedi cael cyngor eglur dro ar ôl tro gan y grŵp cynghori technegol mai dull gweithredu cenedlaethol sydd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol ar hyn o bryd. Ddydd Llun, cyhoeddwyd adroddiad pellach gan y grŵp cynghori technegol, gyda chyngor a lywiodd benderfyniad y Llywodraeth i gyflwyno'r cyfyngiadau lletygarwch newydd ledled Cymru. Dylwn ddweud ar y pwynt hwn y byddwn yn cefnogi gwelliannau 5 a 6.
Mae gwelliannau Plaid Cymru i raddau helaeth yn ymdrin â manylion y cyfyngiadau lletygarwch. Mae'r cyfyngiadau ar y sector lletygarwch, gan gynnwys gwerthu alcohol, yn elfen allweddol o'r ymyriadau y mae SAGE yn ystyried eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar y feirws. Er bod y cyfyngiadau ar archfarchnadoedd a siopau diodydd sy'n gwerthu alcohol ar ôl 10 p.m. yn parhau ar waith, nid wyf yn credu ei bod yn gymesur gosod cyfyngiadau pellach ar allu pobl i brynu alcohol i'w yfed yn eu cartrefi eu hunain, ond mae'r negeseuon gan y Llywodraeth ynglŷn â sut rydym yn gofyn i bobl ymddwyn, i wneud y peth iawn, yn parhau'n glir.
Mewn ymateb i welliannau 16 a 17, dylwn ddweud bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi dod â rheoliadau i'w trafod a'u penderfynu i'r Senedd yn unol â rheolau'r Senedd hon. O ystyried pwysigrwydd ymateb yn gyflym i'r bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd, bygythiad sy'n newid, bydd angen inni barhau i weithredu'n gyflym, pryd bynnag y bydd angen, i gadw Cymru'n ddiogel. Er fy mod yn gwrthod y gwelliannau sy'n gysylltiedig â lletygarwch, nid wyf yn bychanu'r effaith negyddol iawn y bydd y cyfyngiadau hyn yn ei chael ar fusnesau ledled Cymru. Dyna pam ein bod wedi darparu'r pecyn mwyaf hael o fesurau yn unrhyw ran o'r DU. Rwy'n cydnabod y gwaith caled yn y sector i gyflwyno mesurau lliniaru, ond yn anffodus, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau anodd ac annymunol iawn i gyflwyno cyfyngiadau pellach. Mae'r penderfyniadau a wnaed gennym wedi'u cefnogi gan gyngor SAGE a'r grŵp cynghori technegol, y cyfeiriais ato'n gynharach, a datganiadau cyhoeddus a chyngor ein prif swyddog meddygol ein hunain.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw am yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel 'dull wedi'i dargedu', heb nodi'n glir beth fyddai hynny na'r cyngor a'r dystiolaeth sy'n sail i'r alwad honno am ddull amgen. Yr hyn a glywsom mewn datganiadau cyhoeddus gan y Ceidwadwyr yw'r awydd i gael mwy o gyfyngiadau ar grwpiau unigol o bobl, yn enwedig pobl hŷn. Gwrthodwyd y cyngor hwnnw fel un anymarferol nid yn unig gan SAGE, ond gan ein grŵp ein hunain, y grŵp cynghori technegol. Gwrthodwyd y cyngor hwnnw ac ni chafodd ei ddilyn gan Weinidog iechyd Plaid Genedlaethol yr Alban yn yr Alban, Gweinidog iechyd Unoliaethwyr Ulster yng Ngogledd Iwerddon a'r Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol dros iechyd sy'n gweithredu dros Loegr. Mae hefyd yn ddull sydd wedi'i wrthod gan bob un o'r pedwar prif swyddog meddygol ledled y DU. Mater i'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yw a ydynt yn dal i ddymuno hyrwyddo'r dull gweithredu hwnnw, ond nid yw'r Llywodraeth hon yn credu ei bod yn ffordd gywir o weithredu i gadw Cymru'n ddiogel.
Roedd pob un ohonom yn gobeithio y byddai'r cyfnod atal byr, a mesurau cenedlaethol wedyn, yn rhoi llwybr i ni hyd at y Nadolig. Yn anffodus, mae'n amlwg nad yw hynny wedi digwydd. Dyna pam y mae angen inni gymryd camau pellach yn awr fel cenedl i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Rwy'n gobeithio y bydd y ffigurau sobreiddiol, cythryblus a difrifol iawn yn ddi-os yn ystod y dyddiau diwethaf wedi gwneud i bob Aelod oedi ac ystyried. Wrth inni wynebu'r posibilrwydd o fwy o niwed, wrth inni wynebu'r posibilrwydd o aeaf caled, anodd ac angheuol o'n blaenau heb newid pellach, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau, yn wyneb y posibilrwydd hwnnw, yn ystyried a ddylai'r Senedd hon bleidleisio heddiw i lacio'r cyfyngiadau. Credaf y bydd gwneud hynny'n sicr o achosi mwy fyth o niwed, ac yn sicr o arwain at farwolaethau y gellir eu hosgoi ymhlith y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Ni chredaf fod hwnnw'n ddewis cyfrifol, gan fod yn rhaid i bob un ohonom daro'r cydbwysedd rhwng y niwed o weithredu a'r niwed llawer mwy o wneud dim. Rwy'n gwneud y cynnig a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth heddiw.