Part of the debate – Senedd Cymru ar 9 Rhagfyr 2020.
Cynnig NDM7505 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.
2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a
b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.