Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
I orffen felly, fodd bynnag, credwn fod y Llywodraeth yn anghywir am elfennau o'r cyfyngiadau cenedlaethol hyn, felly rydym yn gofyn iddynt ailfeddwl. Ac mae'n teimlo'n anghywir iawn, rwy'n meddwl, mewn rhannau o Gymru lle mae llai o achosion o'r feirws. Rydym yn galw am ailfeddwl ynglŷn â rhai elfennau. Rydym yn gofyn eto, ar bob cam o'r stori hon, i chi ddangos yn glir i ni a'r cyhoedd yng Nghymru ar ba sail y gwneir penderfyniadau.