Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi symud ymlaen i ymdrin â'r cynnig ei hun, rhaid imi gofnodi fy siom ynglŷn â'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi cael ei drin. Etholwyd y Senedd hon i ddeddfu er budd gorau pobl Cymru, ond oherwydd y dirmyg a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, mae galw arnom unwaith eto i amenio penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Cawsom ein hethol i gynrychioli ein hetholwyr, sy'n colli eu swyddi a'u busnesau o ganlyniad i'r penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ac eto, ni chawsom bleidleisio ar y cyfyngiadau cyn iddynt ddod i rym. Yn hytrach, cawn bleidleisio ar gynnig di-fflach. Nid democratiaeth yw hyn; mae bellach yn unbennaeth etholedig, ac nid yw'n syndod bod y sector cyhoeddus a busnes ehangach yn colli ffydd yn y sefydliad hwn.
Gan symud ymlaen at fy ngwelliant—gwelliant rwy'n ei gynnig yn ffurfiol—nid ydym yn cefnogi penderfyniadau Llywodraeth Cymru, ond o'r blaen, cofnodais fod y Prif Weinidog wedi cael fy nghefnogaeth i reoliadau, ond bellach, yn anffodus, mae'r Prif Weinidog wedi ein gosod ar lwybr a fydd yn effeithio'n fawr ar ein sector lletygarwch, ac na fydd yn cael fawr o effaith ar y pandemig yma yng Nghymru. A bydd y camau gweithredu hyn, a allai gael effaith gyfyngedig ar ledaeniad COVID-19 neu beidio, yn dinistrio'r sector lletygarwch yng Nghymru heb unrhyw amheuaeth. Caeodd llawer o dafarndai eu drysau nos Wener am y tro olaf, a gorffennodd llawer gormod o staff eu sifft olaf gan wynebu'r Nadolig heb swydd, ac mae rhai busnesau wedi dweud wrthyf eu bod yn dal i aros am gymorth ariannol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud. Ac rwy'n ofni bod Cymru'n gweld marwolaeth araf ein heconomi mewn ymdrech ofer i atal y pandemig. Felly, er gwaethaf mesurau sydd wedi difetha rhannau helaeth o'n sectorau twristiaeth a lletygarwch, yn ogystal â manwerthwyr nad ydynt yn gwerthu bwyd, mae gennym y cyfraddau heintio gwaethaf yn y DU. Nid wyf yn arddel yr athroniaeth 'gadewch iddo redeg ei gwrs', oherwydd gall y feirws hwn ddinistrio bywydau, ac mae'n gwneud hynny. Ac eto, ar yr un pryd, ni allwn gau popeth nes bod gennym ddigon o gyflenwadau o'r brechlyn.
Gallai'r effaith hirdymor fod yn llawer gwaeth nag effaith uniongyrchol COVID-19. Faint o gyfleoedd bywyd sydd wedi'u difetha o ganlyniad i'r camau hyn? Faint o bobl fydd yn cael eu condemnio i fywyd o dlodi gan y bydd yn cymryd degawdau i'n heconomi wella? Nid yw heintiau'n cael eu lledaenu mewn sefydliadau lletygarwch, sefydliadau sydd wedi gwario miliynau o bunnoedd i wneud eu lleoliadau'n ddiogel rhag COVID ac sy'n sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae'n cael ei ledaenu mewn digwyddiadau mawr dan do gan bobl sy'n credu nad yw'r rheolau ar eu cyfer hwy, crynoadau mawr o 20 o bobl a mwy, yn chwarae ym meysydd parcio archfarchnadoedd; dim masgiau, dim cadw pellter cymdeithasol, ac eto, yn mynd adref at eu teuluoedd wedyn.
Mae llawer o bobl yn cwyno am y negeseuon cymysg nad ydynt yn eu deall; mae pobl yn cael eu drysu gan y rheolau ac yna'n penderfynu anwybyddu'r rheolau'n gyfan gwbl. Maent yn dweud, 'Os yw'n iawn i gyfarfod â phedwar ffrind yn y dafarn, pam ddim gartref?' Rhaid inni gael mwy o eglurder a llai o ddryswch, oherwydd mae rhai pobl yn torri'r rheolau'n anfwriadol. Dylem fod yn anfon neges glir y dylai pobl osgoi pob cysylltiad â phobl nad ydynt yn rhan o'u haelwyd hyd nes y cawn stociau digonol o'r brechlyn. Mae arnom angen system profi, olrhain a diogelu sy'n cynnal profion rheolaidd ar draws y boblogaeth ac yn ynysu'r rhai sydd wedi'u heintio. Pam ein bod yn methu mynd i'r afael â phobl sy'n torri'r rheolau'n fwriadol, ac yn defnyddio'r sector lletygarwch fel bwch dihangol ynghyd â'r bobl sy'n cydymffurfio â'r gyfraith? Ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant. Diolch yn fawr. Diolch.