Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Dyma ni felly yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Os ydy pawb yn barod ar gyfer y bleidlais, fe fydd y bleidlais gyntaf ar y ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gymorth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Lynne Neagle, Bethan Sayed a Leanne Wood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 12 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.