Y Llwybr Coch yn Sir y Fflint

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:08, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno bod yna bryderon rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy drwy gynnal yr arolygon manwl hynny, drwy ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid sydd wedi mynegi pryderon, ac wrth gwrs, rydym yn ymgysylltu â'r cymunedau yn yr ardal. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol ac at gynghorwyr, ac at y rhai sy'n byw o fewn 500m i'r llwybr, i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n digwydd.

Mae'r cynllun penodol hwn yn hanfodol bwysig i weledigaeth metro gogledd Cymru hefyd, gan sicrhau y gallwn symud traffig oddi ar briffordd allweddol yr A494/A55 i'n galluogi i lunio llwybrau bysiau pwrpasol, lonydd bysiau a llwybrau teithio llesol hefyd, na allant fodoli ar hyn o bryd am nad oes lle yno i'w darparu.