Gwaith Dur Trostre yn Llanelli

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:20, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Dai Rees yn gwneud y pwynt pwysig fod rhaid i newid i dechnolegau amgen ddigwydd dros gyfnod o amser sy'n caniatáu i gynifer â phosibl o weithwyr medrus gael eu cadw. Mewn ymateb uniongyrchol i'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn, rwyf wedi gofyn am gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS; yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd eto. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn ymgysylltu'n rheolaidd iawn â Nadhim Zahawi, sydd wedi bod yn hynod o ymatebol i'n galwadau. Byddai angen i mi edrych, ond hyd y gwn i, yn anffodus nid yw Prif Weinidog y DU wedi ymateb i gais Prif Weinidog Cymru am drafodaeth. Ond fe edrychaf i weld ynglŷn â hynny ac fe wnaf yn siŵr fod yr Aelodau'n cael gwybod beth oedd canlyniad y llythyr a anfonwyd gan Brif Weinidog Cymru.FootnoteLink