Ariannu Trafnidiaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:25, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r gorsafoedd hynny'n rhan o rwydwaith Cymru a'r gororau ac mae'r buddsoddiad sydd wedi digwydd yn y gorsafoedd hynny, wrth gwrs, ynghlwm wrth y setliad a gawn gan Lywodraeth y DU. Mae'r gorsafoedd hynny'n aml yn cael eu defnyddio gan gymudwyr Cymru hefyd, gan gydnabod natur fân-dyllog y ffin. Ond rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol cydnabod, gyda threfniadau'r fasnachfraint bellach yn dod i berchnogaeth gyhoeddus, y byddwn yn chwilio am werth am arian o'r gwasanaethau a ddarperir a'r buddsoddiad sy'n digwydd yn y gorsafoedd hynny, ond yn yr un modd rydym yn benderfynol o sicrhau bod pobl yn cael y profiad gorau y gallant ei gael pan fyddant yn teithio ar drên ar fasnachfraint Cymru a'r gororau o un pen i'r llall.