Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Mae'n gwestiwn hynod ddiddorol; mae potensial enfawr yn y maes hwn. Wrth gwrs, mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn arwain arno yn bennaf, ond rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn edrych ar bob cyfle i roi'r dyfodol gorau posibl i'r sector dur yng Nghymru ac yn wir, ar draws y DU. O ran Trostre, wrth gwrs, mae'n cynhyrchu cynnyrch dur yn bennaf at ddibenion pecynnu bwyd, ac rydym yn buddsoddi'n helaeth iawn mewn cyfleusterau ymchwil a datblygu, yn enwedig i'r sector dur, yn yr ardal o amgylch Abertawe a mannau eraill mewn perthynas â phecynnu bwyd. Rwy'n credu bod ganddo ddyfodol cadarnhaol iawn. Ond mae'r awgrymiadau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn rhai dilys iawn, ac maent yn awgrymiadau rydym yn gweithio arnynt gyda swyddogion Llywodraeth y DU.