Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy niddordeb yn y rôl ddi-dâl o gadeirio grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, ond mae fy nghwestiwn y tu hwnt i waith y grŵp hwnnw. Rwyf wedi derbyn sylwadau, Weinidog, gan gynrychiolwyr o'r sector addysg uwch yng Nghymru, gyda'u pryderon ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU a chynigion Llywodraeth y DU. A nodant y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn dechrau fel rhaglen beilot, gyda chyfanswm o £200 miliwn ar gyfer y DU gyfan, tra bod Cronfa Trefi Lloegr, mewn cyferbyniad—Lloegr yn unig—wedi cael £4 biliwn ac wedi’i sefydlu'n gyflym. Ac maent yn nodi'r gwahaniaeth rhwng addewid y Blaid Geidwadol ym maniffesto 2019, sy'n dweud,
Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn...mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ym mhob un o'n pedair gwlad.
Ac o leiaf— dyma'r geiriau— yn cyfateb i faint y cronfeydd hynny ym mhob gwlad.
Nid ydynt yn deall yr anghysondeb rhwng addewid y maniffesto a manylion yr adolygiad. Felly, Weinidog, a allech chi ein helpu ni a'n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i ddeall yr anghysondeb clir rhwng yr hyn a addawyd a'r hyn sydd ar gael nawr?