Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, rwy'n cefnogi Brexit yn frwd. Fodd bynnag, rwyf bob amser wedi dadlau y dylai pob cymhwysedd a ddychwelir i Lywodraeth y DU sy'n gymhwysedd datganoledig gael ei drosglwyddo i'r Llywodraethau datganoledig yn ei gyfanrwydd. Mae hyn hefyd yn wir am unrhyw fuddion ariannol sy'n deillio o adael yr UE. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn amlygiad o'r budd ariannol hwnnw. Felly, rwy'n annog y Cwnsler Cyffredinol i bwysleisio i Lywodraeth y DU y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennych i hyn gael ei weithredu yn y fath fodd fel mai Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ble y caiff yr arian hwnnw ei wario.