Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Rwy'n falch iawn eich bod yn cymryd rhan yn y fforwm hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi sefydlu llawer o gytundebau masnach y tu hwnt i'r UE ym mhob cwr o'r byd, yn amrywio o wledydd fel Periw a Japan i Israel a De Korea. Yn ogystal â hynny, mae ymgysylltu'n parhau gyda dwsin o wledydd eraill, gan gynnwys Mecsico, Singapore a Thwrci, ac mae'n amlwg iawn fod cytundebau masnach ar ôl Brexit yn cael eu paratoi i gyflawni disgwyliadau pobl pan wnaethant bleidleisio dros Brexit yn ôl yn 2016. Ac rwy'n obeithiol iawn y gallwn ni yma yng Nghymru fanteisio ar y cytundebau hynny.
Gwn fod y cyn-Weinidog cysylltiadau rhyngwladol wedi cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi hefyd yn parhau â'r gwaith hwnnw. Mae'r cyn-Weinidog a oedd yn gyfrifol am y portffolio masnach rhyngwladol wedi cydnabod yr ymgysylltiad, yr ymgysylltiad cadarnhaol, a ddigwyddodd ar y cytundebau masnach hyn. A gaf fi ofyn ichi: pa waith rydych yn ei wneud ar draws y Llywodraeth i sicrhau y gall Cymru fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r cytundebau masnach hyn yn eu cynnig ar 1 Ionawr?