Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Ers i'r Llywodraeth Lafur agor y llifddorau i fudo torfol yn 2004, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod ein bod wedi bod yn ychwanegu bron i draean o filiwn o bobl at boblogaeth y DU bob blwyddyn. Mae hyn wedi cael effaith lesteiriol ar gyflogau, yn enwedig i'r rheini mewn swyddi heb sgiliau ar gyflogau isel, ac mae hefyd yn gwaethygu'r prinder tai gwirioneddol sydd gennym ledled y Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru yn wir. Onid yw'n derbyn bod system rheoli mewnfudo deg a chytbwys bellach yn hanfodol er budd y rhai sydd yn y sefyllfa fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas? Ac a yw hefyd yn derbyn bod rhethreg anghyfrifol Llywodraeth Lafur Cymru ar Gymru fel cenedl noddfa wedi bod yn anogaeth uniongyrchol i fudo anghyfreithlon?