Part of the debate – Senedd Cymru am 7:31 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
A gaf i yn gyntaf gydnabod y rhyfeddod o araith a glywsom ni—un o'r rhai mwyaf rhyfeddol, mae'n sicr, yn hanes y Senedd hon? Ond dwi ddim yn synnu, oherwydd, fel y cyfeiriodd Neil Hamilton yn garedig iawn, roeddem ein dau yn Aelodau o Senedd arall yn San Steffan ar yr un pryd. Dwi ddim am geisio ymateb i'r cynfas eang rhyngwladol ac athronyddol a ddewisodd o i'w ddilyn. Ond fe wnaf i yn gyntaf osod gerbron beth yw'r drefn ar gyfer cael gwared â cherfluniau, ac mae hyn yn hollol glir a chyfreithlon: os yw cerfluniau neu henebion wedi'u rhestru, yna mae'n rhaid cael caniatâd adeilad rhestredig cyn eu symud ymaith neu eu dymchwel.
Nawr, gwnaf i ddim gwneud sylw ar yr achosion unigol y mae e wedi sôn amdanyn nhw, oherwydd pe byddai yna gais i ddadrestru yn digwydd yn ystod y pedwar mis nesaf, byddai'n dod i mi, fel y Gweinidog cyfrifol. Ond mae'n bwysig fy mod i'n dweud bod y broses yma yn cael ei gweinyddu gan awdurdodau cynllunio lleol ac mi fydd yna ystyriaeth arbennig i ba mor dymunol fyddai diogelu strwythur rhestredig, o ran ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, cyn penderfynu a ddylid ei symud ymaith neu ei ddymchwel.
Fe all ystyriaeth hanesyddol arbennig fod yn berthnasol iawn yn y drafodaeth hon, oherwydd nid proses a reolir gan y gorffennol mo hanes; mae hanes yn wyddor sy'n cael ei ddeall a'i ddarllen yn y presennol, gobeithio gyda golwg ar y dyfodol, neu o leiaf fel yna cefais i fy nysgu mewn sawl prifysgol yn yr Alban ac yng Nghymru. Ac felly, dwi am ei gwneud hi'n hollol glir: yn fy meddwl i, os oes gan unrhyw Aelod o’r Senedd hon yr awydd i symud unrhyw gerfluniau neu heneb, mae'n rhaid i’r cais hwn fynd drwy broses briodol. Cadw, ar ran Gweinidogion Cymru—corff dwi'n gyfrifol amdano—sy'n argymell pa adeiladau y dylid cael eu rhestru neu eu dadrestru, sy'n rheswm arall pam na allaf i ymateb i'r achosion unigol y mae Neil Hamilton wedi cyfeirio atyn nhw. Ond dim ond yng ngoleuni tystiolaeth newydd y byddai unrhyw gais i ddadrestru unrhyw strwythur yn cael ei ystyried a rhaid i'r dystiolaeth yna ymwneud â diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
Ac, wrth gwrs, os ydy rhywun yn derbyn mai hermeniwteg hanesyddol yw'r unig ffordd i ddeall hanes, yna mae'n bosib ein bod ni yn deall hanes yn wahanol erbyn hyn i'r ganrif yn ôl pan godwyd rhai o'r cofebau sydd wedi'u cyfeirio atyn nhw. Ac felly, mae hi yn bosib—a dwi ddim yn dweud pa un ai ydy hi'n ddymunol neu'n annymunol—i wneud cais i sicrhau bod cofebau yn cael eu symud. A dyw Neil Hamilton ddim wedi bod yn deg â dinas Caerdydd yn yr achos yma. Fel dwi'n deall—a dwi ddim wedi bod yna i edrych yn fanwl—dydy'r gofeb arbennig roedd o'n cyfeirio ati ddim wedi cael ei dileu na'i symud; mae hi wedi cael ei gosod mewn bocs. Ac os yw llywodraeth dinas a sir Caerdydd yn penderfynu bod yr agwedd hanesyddol ar Thomas Picton wedi newid i feddwl y dylid ei rhoi o mewn bocs, yna mater i ddinas a sir Caerdydd yw hynny. A dwi ddim yn mynd i fynegi—[Torri ar draws.] Ie, yn gyfreithiol, os nad oes yna rywun yn mynd i arwain proses yn gofyn yn wahanol.
Fe wnaeth Neil Hamilton hefyd gyfeirio yn benodol at Bywydau Du o Bwys. Mae'n rhaid i mi ddweud, er ei fod o yn defnyddio'r term 'Marcsaidd', sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio fel term i gyhuddo pobl sydd ar y chwith o fod yn arddel syniadau comiwnyddol—. Ces i unwaith fy ngalw 'y Marcsydd o Feirionnydd'. Wel, dwi'n sicr yn dod o Feirionnydd yn deuluol, ond fuaswn i ddim yn arddel athroniaeth Farcsaidd ddireswm mewn unrhyw ysytyr yn fy mywyd cyhoeddus nac yn fy mywyd academaidd cyn hynny. Ac felly, mae'n bryd inni gael dealltwriaeth well, os gwelwch chi'n dda, o'r syniad yma am y dyfodol a'r gorffennol. Mae cael gwared ar gerfluniau yn gyfreithlon, ond mae'n rhaid i'r broses honno gael ei dilyn. Nid drwy godi dadl rethregol yn y Senedd na rhyw fath o ddarlith academaidd fer gan y Gweinidog diwylliant mae gwneud hynny.