Cwestiwn Brys: Cyfyngiadau COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:31, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog. Wrth gwrs, mae'n destun cryn ofid fod Cymru wedi cyrraedd y pwynt lle bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu rhoi ar waith yn genedlaethol i ymladd y cynnydd dramatig mewn achosion o COVID-19 ledled y wlad, a bydd hon yn ergyd chwerw i lawer o bobl ar draws Cymru sydd wedi cydymffurfio â chyfyngiadau’r Llywodraeth drwy'r flwyddyn ac sydd bellach yn wynebu cyfyngiadau pellach ar eu bywydau. Fodd bynnag, mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain, ac o ystyried bod cyfradd R bellach yn uwch na 1.4 yng Nghymru, a chan fod cyfradd yr achosion a gadarnhawyd yn uwch na'r trothwy ar gyfer lefel rhybudd 4 yng nghynllun rheoli’r coronafeirws, rwy’n deall yn iawn yr hyn sy’n sail  i benderfyniad Llywodraeth Cymru.

Yn gyntaf, bydd llawer o bobl, yn ddealladwy, yn cwestiynu cymesuredd y mesurau hyn o bosibl, yn enwedig pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Gwynedd ac Ynys Môn. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu, ac y bydd cyfyngiadau wedi'u targedu yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd penodol os yw'r dystiolaeth wyddonol yn caniatáu hynny? Wrth gwrs, ar hyn o bryd, bydd y mesurau hyn yn dilyn cyfnod o lacio cyfyngiadau rhwng 23 a 27 Rhagfyr, lle caniateir i bobl o Gymru deithio ledled y DU. A gwn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn trafod cyfnod y Nadolig dros y 24 awr ddiwethaf, a deallaf y bydd datganiad yn cael ei wneud maes o law. Ond efallai y gallai'r Prif Weinidog egluro beth yn union yw'r trefniadau mewn perthynas â theithio, yng Nghymru, ac yn wir, ar draws rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.

Mae hefyd yn hanfodol fod cyllid ac adnoddau digonol ar waith yn sail i'r newid i gyfyngiadau lefel 4 yng Nghymru, fel y gall pobl a busnesau sydd angen cymorth gael mynediad ato. Yn syml, ni allwn ganiatáu i bobl a busnesau ysgwyddo baich y cyfyngiadau hyn heb gymorth y Llywodraeth. Ac felly, a all ddweud wrthym pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cyfyngiadau lefel 4, ac a all gadarnhau y bydd cymorth yn cael ei ddarparu ar frys ac nid yn nes ymlaen?

Nawr, mae’n rhaid rhoi cymorth i bobl sydd ei angen er mwyn eu hiechyd meddwl, ac rwy’n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl, er mwyn sicrhau y bydd pobl yn cael eu cynnal drwy gydol y cyfnod hwn. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud mwy wrthym am y cymorth y bydd yn ei ddarparu yn ystod y cyfnod rhybudd lefel 4?

Er bod y cyfyngiadau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfnod pan nad yw plant a phobl ifanc yn yr ysgol ac mewn lleoliadau prifysgol, bydd pryderon o hyd ynghylch yr hyn y gall y cyhoeddiad hwn ei olygu ar gyfer dechrau'r tymor academaidd nesaf. Ac felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau pa drafodaethau sy'n mynd rhagddynt gyda'r sector addysg ynghylch effaith cyfyngiadau lefel 4? Ac a all gadarnhau ei fod yn dal yn bwriadu caniatáu i blant a myfyrwyr ddychwelyd i ysgolion, colegau a phrifysgolion ym mis Ionawr?

Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru hefyd i gyfleu unrhyw fesurau rhagofalus i bobl Cymru yn effeithiol er mwyn ennyn hyder y cyhoedd a’u cydymffurfiaeth â'r mesurau newydd hyn. Ac felly, rhwng nawr a 26 Rhagfyr, a all ddweud wrthym pa ganllawiau a chyfathrebiadau a gaiff eu gwneud gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn deall y mesurau newydd yn llawn, sut y gallant gael gafael ar gymorth, ac yn allweddol, pam fod y cyfyngiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn y lle cyntaf?

Ac yn olaf, Lywydd, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu gwerthuso ochr yn ochr â’r rhaglen frechu, gan y bydd gan honno hefyd rôl bwysig yn mynd i'r afael â'r feirws dros gyfnod y Nadolig. Mae angen gobaith ar bobl Cymru, ac mae'r rhaglen frechu yn rhan bwysig o atgoffa'r bobl fod golau ar ben draw’r twnnel tywyll iawn hwn ac mae’n rhaid i ni fod yn bositif ynglŷn â'r cynnydd a wneir yn hyn o beth. Felly, mae'n hanfodol fod mwy o fanylion yn cael eu darparu nawr ar y materion hyn, ac rwy'n croesawu unrhyw ddiweddariadau pellach y gall y Prif Weinidog eu rhoi yn ei ymateb. Diolch, Lywydd.