Part of the debate – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Lywydd, diolch i Carwyn Jones am y cwestiynau hynny ac am y crebwyll y mae'n ei ddangos, wrth gwrs, ynglŷn â'r cydbwysedd heriol parhaus sydd i'w daro yn y penderfyniadau sy'n rhaid inni eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n iawn wrth gwrs. Pan fydd pobl yn ysgrifennu atom gyda safbwyntiau gwahanol iawn, nid yw byth oherwydd bod gan un safbwynt yr holl bethau cywir ar ei ochr ac nad oes unrhyw rinwedd o gwbl yn perthyn i'r safbwynt arall.
Yn y dyddiau diwethaf bûm yn gwrando'n astud iawn ar yr holl negeseuon a gawn gan uwch glinigwyr a gweithwyr rheng flaen, yn union fel y bûm yn gwrando ar negeseuon gan ofalwyr anffurfiol mewn cymunedau yng Nghymru sydd wedi dweud wrthyf am yr angen iddynt gael cefnogaeth ehangach gan deuluoedd dros y Nadolig er mwyn parhau i wneud yr holl bethau a wnânt bob dydd i ofalu am bobl eraill yng Nghymru. Mae un grŵp o bobl yn fy annog i dynhau pethau, a'r grŵp arall o bobl yn fy annog i beidio. Mae gan y ddau ddadleuon cryf iawn i'w gwneud, wrth iddynt drosglwyddo'r negeseuon hynny i mi. Ac mae'n rhaid i ni gael y penderfyniad cytbwys y cyfeiriodd Carwyn Jones ato. Ac wrth gwrs, mae'n iawn i dynnu sylw at y cyfyngiadau ar atebion rhanbarthol yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n dal i orfod pwysleisio nad gwahaniaeth dros dro rhwng un rhan o Gymru a'r llall yw'r hyn y byddai'n rhaid i ni ei weld, neu batrwm yn pendilio rhwng niferoedd yn codi a niferoedd yn gostwng, ond gwahaniaeth cyson a chynaliadwy rhwng rhai rhannau o Gymru ac eraill. Nawr, gall hynny ddigwydd a gall ddigwydd dros yr wythnosau i ddod, ac os bydd yn digwydd, mae ein cynllun yn caniatáu inni ymateb i hynny. Ond yn union fel y gwelsom rannau o Gymru gyda niferoedd yn gostwng, mae'r un rhannau o Gymru, ar wahanol adegau, wedi bod ar ben uchaf coronafeirws yn ystod y misoedd sydd wedi mynd heibio. Felly, byddai angen inni fod ar lefel wahanol o ddibynadwyedd gwahaniaethu er mwyn manteisio ar y llwybr penderfynu y mae'r cynllun yn caniatáu inni ei ddilyn.
Rwyf am orffen fy ateb i gwestiwn Carwyn Jones drwy gytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd gobaith. Heddiw, rydym yn brechu pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal am y tro cyntaf yng Nghymru. Fe wnaethom frechu nifer o bobl yng Nghymru ar ben uchaf yr hyn a ddisgwyliem yr wythnos diwethaf. Os ydym am gyrraedd y niferoedd yr hoffem eu gweld a'r effaith y byddem am ei gweld ym mywydau pobl, rhaid inni weld brechlynnau eraill hefyd yn cael cymeradwyaeth reoleiddiol er mwyn cael brechu ar raddfa fawr i ddigwydd yma yng Nghymru. A hyd yn oed gyda phopeth yn ei le a chyda phenderfyniad enfawr ein gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru i wneud y cyfraniad hwnnw, mae arnaf ofn na fyddwn yn y sefyllfa honno tan ymhell i mewn i ail chwarter y flwyddyn nesaf ar y cynharaf.