Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob sector, ac nid yw'r economi wledig yn wahanol. Ym mis Medi, ymrwymais £106 miliwn i gefnogi'r economi wledig dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn asesu effeithiau'r pandemig yn barhaus ac rydym wedi ymateb mewn modd pendant.