Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Gwyddom y gall materion iechyd meddwl fod yn guddiedig yn aml, yn enwedig yn ardaloedd mwy gwledig Cymru, ac yn aml iawn tan ei bod hi'n rhy hwyr, gwaetha'r modd. Mae'r pandemig wedi ychwanegu haen arall nawr at y mathau niferus o straen a phwysau sy'n wynebu busnesau a ffermwyr, er enghraifft, yn yr ardaloedd gwledig. Pa asesiad rydych wedi'i wneud, a pha drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ymdrin â materion iechyd meddwl i asesu'r heriau sy'n wynebu busnesau a ffermwyr a phobl yn yr economi wledig, a pha gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau yn yr ardaloedd hynny ar yr adeg anodd hon i sicrhau bod y baich yn cael ei ysgwyddo gan y Llywodraeth i’r graddau mwyaf posibl ar gyfer y rheini yr effeithir arnynt?