Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac yn sicr, mae’r methiant i ddarparu cyllid amaethyddol llawn yn lle cyllid yr UE yn amlwg yn rhywbeth sy'n fy ngwylltio'n fawr—dylai wylltio pob un ohonom. A dylai pob Aelod o'r Senedd hon fod yn dadlau dros Gymru i sicrhau ein bod yn cael yr arian hwnnw yn ôl i gefnogi ein sector amaethyddol. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn elwa o dros £700 miliwn o ganlyniad i’n cyfranogiad mewn ystod o raglenni'r UE, ac mae'r mwyafrif helaeth o'r rheini'n sicr yn cefnogi ein heconomi a'n cymdeithas wledig. Byddwn yn parhau i ymladd am y cyllid hwnnw, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth y DU wedi bradychu'r Gymru wledig.