Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch i chi, Weinidog. Hoffwn innau hefyd longyfarch a diolch i Hyb Cyn-filwyr Casnewydd. Maent yn gwneud gwaith gwych. Mae elusennau sy'n cefnogi cyn-filwyr wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig coronafeirws, ac rwy'n meddwl am apêl y pabi yn enwedig yn ystod y cyfnod atal byr. O ystyried hyn, pa gymorth ychwanegol penodol ac wedi'i dargedu y bydd y Gweinidog yn ei ddarparu i gyn-filwyr yng Nghymru a allai fod wedi cael eu heffeithio'n andwyol yn sgil colli cyllid ar yr adeg hon?