Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Mae Hyb Cyn-filwyr Porthcawl a'r gwirfoddolwyr niferus yno'n rhoi cymaint o gefnogaeth i gyn-filwyr, a heb y cymorth hwn, byddai llawer ohonynt yn cael eu colli. Ond Weinidog, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod ni fel cenedl yn dal i wneud cam â'n cyn-filwyr, ac mae cyn-filwyr yn dal i'w chael hi'n anodd cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu, a cheir llawer gormod o gyn-filwyr bellach y nodir eu bod yn dal i gysgu ar y stryd neu ar soffas pobl, er gwaethaf ymrwymiad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Chymru. Weinidog, a ydych yn cytuno bod rhaid inni wneud llawer mwy dros yr arwyr hyn sy'n rhoi eu bywydau yn y fantol ar ein rhan yn gyson, ac a wnewch chi ymrwymo i ddod o hyd i lety i bob un o'r cyn-filwyr yng Nghymru sydd cymaint o'i angen? Diolch.