Cartrefi Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:44, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Cyfres o gwestiynau ar yr un thema heddiw, Lywydd. Ydy, Mark, mae cynyddu nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, yn enwedig ar gyfer rhent cymdeithasol, yn flaenoriaeth sylfaenol i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi gwneud y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai ac rwy'n hyderus o gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon.