Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Mae Plaid Cymru yn credu'n gryf yn yr egwyddor o brydau am ddim ar gyfer pob disgybl ysgol yng Nghymru, a dyna fyddai ein safbwynt ni mewn Llywodraeth. Fe fyddai'n bolisi a fyddai'n defnyddio bwyd lleol, yn cefnogi busnesau Cymreig ac yn diogelu’r amgylchedd. Mae'n ddyletswydd ar unrhyw Lywodraeth i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd i'r ysgol efo stumog wag, ac eto, mae yna 70,000 sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Yn amlwg, mae angen newid hynny yn syth. Felly, fel cam cyntaf brys, mae angen codi'r trothwy ynglŷn â phwy sydd yn gymwys, fel bod plant ym mhob cartref sydd yn derbyn credyd cynhwysol yn derbyn prydau ysgol am ddim. Yn ôl yr amcangyfrif, mi fyddai codi'r trothwy yn costio tua £60 miliwn y flwyddyn.
Fe fyddem ni mewn Llywodraeth yn cyhoeddi amserlen glir ar gyfer y camau nesaf ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim i bawb, gan ddechrau efo'r plant ieuengaf, ac yna ymlaen. Ac eto, yn ôl yr amcangyfrif, byddai cyflwyno prydau bwyd am ddim i blant tair blynedd gyntaf yr ysgol gynradd yn costio tua £30 miliwn y flwyddyn. Felly, wrth gwrs, oes, mae yna gostau ychwanegol ynghlwm ag ymestyn y polisi, a dyna pam y byddem ni'n symud fesul cam. Ond mae hwn yn bolisi fyddai'n cyflawni sawl amcan polisi.
Fe fyddai o'n fodel ataliol, yn creu arbedion ariannol yn y pen draw oherwydd fe fyddai yna well deilliannau iechyd ac addysg i'n plant ni. Byddai'n bolisi holistaidd, yn cefnogi economi Cymru, a thrwy leihau milltiroedd bwyd, mi fyddai'n llesol i'r amgylchedd hefyd. Dyma fyddai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith: gwella sawl agwedd ar lesiant, ystyried effaith tymor hir y polisi ac atal problemau hirdymor, fel tlodi, anghydraddoldeb iechyd a newid hinsawdd.
Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi gollwng ei tharged i ddod â thlodi plant i ben erbyn 2020, tra bod 129,000 o blant oed ysgol o Gymru yn byw o dan linell dlodi'r Deyrnas Unedig, gyda dim ond dros hanner ohonyn nhw yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r hanner arall yn colli allan, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel sy'n eu cymryd nhw dros y trothwy cymhwysedd. Mae Cymru yn darparu llai o brydau wedi eu coginio am ddim i'w phlant ysgol ar hyn o bryd nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig. Yn yr Alban a Lloegr, mae pob plentyn oedran ysgol yn nhair blynedd gyntaf eu haddysg yn derbyn prydau ysgol am ddim, beth bynnag bo incwm y teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r trothwy enillion presennol i'r sawl sy'n derbyn credyd cynhwysol wedi ei osod yn llawer uwch, sef £14,000, gan helpu i gefnogi llawer mwy o deuluoedd sy'n gweithio.
Y budd allweddol o wneud prydau ysgol am ddim i bawb ydy y byddai'n dileu'r stigma sy'n atal llawer o deuluoedd rhag derbyn y cynnig fel mae o ar hyn o bryd. Mi fyddai prydau ysgol am ddim i bawb yn cael gwared ar rwystrau o'r fath ac yn cyrraedd pob plentyn waeth beth fyddai sefyllfa economaidd y teulu. Mae'r buddion o ddarparu prydau ysgol am ddim yn anferth. Sut all plentyn ddysgu ar stumog wag? Sut fedrwch chi ganolbwyntio ar eich addysg chi os ydych chi'n llwglyd drwy'r amser? Mae plant fydd yn cael pryd bwyd iachus bob dydd yn tyfu yn blant iachach, yn arwain at lai o ordewdra a phroblemau iechyd eraill. Byddai prydau ysgol am ddim i bawb yn gwella iechyd pob plentyn. Mae yna ymchwil gan Sefydliad Nuffield sy'n dangos hyd yn oed i blant rhieni sydd yn lled gefnog, fod prydau ysgol yn fwy cytbwys o ran maeth na'r hyn sydd yn eu bocsys cinio nhw. Ac fe fyddai cysylltu'r prydau bwyd â'r gadwyn fwyd lleol yn dda i'r economi ac i'r amgylchedd, a byddai disgyblion yn gallu dysgu am y budd o fwyta bwyd da, ffres, lleol gan gynhyrchwyr bwyd lleol.
Dychmygwch lond neuadd o blant yn cymdeithasu dros bryd bwyd maethlon—pawb o'r plant; amser cinio yn rhan annatod o'u dysgu nhw, a'r plant yn cefnogi ei gilydd dros bryd bwyd, yn dysgu am werth bwyd lleol a bwyd iach, yn ymweld â'r cynhyrchwyr bwyd a'r ffermydd lleol, yn gwneud y cysylltiadau rhwng gwahanol elfennau ac yn dysgu bob math o sgiliau newydd efo'i gilydd. Llawer iawn o resymau, felly, i bawb gefnogi'r cynnig a phleidleisio dros yr hyn sydd gerbron y prynhawn yma a mabwysiadu'r polisi pwysig yma. Diolch.