7. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim

Part of the debate – Senedd Cymru ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r meini prawf cymhwysedd presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y caledi ariannol y mae teuluoedd wedi'i wynebu ledled Cymru o ganlyniad i bandemig y coronafeirws a'r heriau y mae hyn wedi'u hachosi i rieni a gwarcheidwaid, a'i effaith ar y galw am brydau ysgol am ddim.

3. Yn croesawu'r rôl sydd gan brydau ysgol am ddim o ran gwella iechyd a maeth.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim er mwyn ymestyn y ddarpariaeth i:

a) dysgwyr mewn addysg bellach; a

b) teuluoedd heb incwm ac nad ydynt yn gallu hawlio arian cyhoeddus ar unwaith.