Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Ni yw'r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig o hyd i ddarparu brecwast i bob disgybl ysgol gynradd ac wrth gwrs, mae gennym gynlluniau i weld beth y gallwn ei wneud i ymestyn y ddarpariaeth honno ar gyfer disgyblion blwyddyn 7. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf i gadarnhau cyllid dros wyliau'r Pasg a hanner tymor yn 2020 a chyllid ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim o fis Medi 2020 hyd at y Pasg 2021, ac mae hynny'n cynnwys gwyliau hanner tymor, Mike Hedges.
Rydym wedi sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf hael gan unrhyw Lywodraeth yn y DU sef £19.50 y plentyn yr wythnos. A ni hefyd oedd y Llywodraeth gyntaf i ddarparu cyllid ychwanegol o £1.28 miliwn i dalu'r costau ychwanegol a dalwyd gan lywodraeth leol yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref wrth i'r ysgolion ddychwelyd fesul cam. A ni hefyd oedd y Llywodraeth gyntaf i gytuno ar gyllid ar gyfer plant sy'n gwarchod neu'n hunanynysu fel eu bod yn parhau i gael cymorth os na allant fynychu'r ysgol heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Gyda'i gilydd, rydym wedi ymrwymo dros £52 miliwn i sicrhau nad yw plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llwglyd yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch i'n partneriaid llywodraeth leol ledled Cymru, i gydnabod pa mor gyflym yr aethant ati i ymateb i'r alwad wreiddiol, eu dulliau creadigol ac arloesol o weithredu, ac am waith caled ac ymroddiad eu swyddogion sydd wedi bod mor hanfodol i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi. Ac a gaf fi hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i staff arlwyo, sydd wedi bod yn gweithio mewn amgylchiadau heriol iawn ers i'r ysgolion ddychwelyd ar gyfer tymor mis Medi? Mae llawer ohonoch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen: fy Mam-gu oedd cogydd yr ysgol am flynyddoedd lawer yn Ysgol Gynradd Blaenymaes yn etholaeth Mike Hedges. Pliciodd lawer o datws ar gyfer y plant hynny, ond gwn hefyd ei bod yn un o'r rhannau mwyaf hoff a mwyaf pwysig o gymuned ei hysgol ac mae hynny'n wir am lawer o'n staff arlwyo sy'n gweithio yn ein hysgolion heddiw.
Yn ystod y pandemig, bu cynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n gwneud cais am gredyd cynhwysol. Ac er na fydd pob hawliwr newydd yn cael credyd cynhwysol, yn bendant bu cynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar eu hawl i gael prydau ysgol am ddim i'w plant. Roedd cyflwyno credyd cynhwysol gan Lywodraeth y DU yn golygu bod yn rhaid inni newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru ac mae'n bwysig nodi na roddwyd unrhyw gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i reoli effaith y newid hwn, sy'n warthus a bod yn onest. Ond serch hynny, darparwyd cyllid ychwanegol o £5 miliwn gennym i awdurdodau lleol yn 2018-19 a £7 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol yn 2019-20 ac ar gyfer 2021.
Rydym hefyd wedi cyflwyno cynllun amddiffyn drwy bontio i sicrhau y byddai unrhyw newid i'r meini prawf cymhwysedd yn achosi cyn lleied â phosibl o darfu. Golyga y bydd disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael eu gwarchod rhag eu colli hyd nes y bydd y broses gyflwyno wedi'i chwblhau, hyd yn oed os bydd eu cymhwysedd yn newid. Amcangyfrifwn y bydd cyfanswm nifer y plant sy'n elwa ar amddiffyn drwy bontio mewn unrhyw flwyddyn benodol, yn ystod cyfnod cyflwyno'r credyd cynhwysol, yn ddegau o filoedd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w gefnogi. Rwyf wedi ymrwymo i gadw'r trothwy'n gyson tan ddiwedd cyfnod cyflwyno'r credyd cynhwysol oherwydd rwyf am sicrhau bod y rhai sydd fwyaf o angen cymorth yn elwa. Ond rwyf hefyd wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r trothwy pan fydd y set nesaf o ddata cyfrifiad ysgolion blynyddol lefel disgyblion ar gael i mi.
Fel llawer o bobl yn y Siambr sydd wedi mynegi barn y prynhawn yma, rwy'n dal i bryderu am drafferthion plant mewn teuluoedd sy'n byw mewn tlodi nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol wedi defnyddio, a byddant yn parhau i ddefnyddio eu disgresiwn i gefnogi teuluoedd heb incwm a theuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt ar unwaith. Rwyf am barhau i annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r disgresiwn hwnnw a byddwn yn ystyried gwneud diwygiadau ffurfiol i ddeddfwriaeth gymhleth pan fydd effaith COVID-19 wedi cilio ac adnoddau ychwanegol ar gael i wasanaethau cyfreithiol.
Rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedwyd yma heddiw, ac rwy'n gwybod pa mor bwysig yw prydau ysgol am ddim i'r teuluoedd sy'n dibynnu arnynt. Ond mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng gwneud yn siŵr fod y rhai mwyaf anghenus yn cael ffordd o gael prydau ysgol am ddim, gan sicrhau ar yr un pryd fod ein cynigion yn fforddiadwy. Yn anffodus, nid oes gennym gyllideb ddiderfyn. Mae angen inni fod yn glir hefyd ynglŷn â chostau cynigion i ehangu cymhwysedd. Amcangyfrifwn y byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni'n cael credyd cynhwysol yn costio £67 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Pe baem yn darparu prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd yn unig, byddai'n costio tua £92 miliwn y flwyddyn. A phe baem yn darparu prydau ysgol am ddim i bob dysgwr o oedran ysgol gorfodol, byddai'n costio tua £169 miliwn. Felly, os yw Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â'u cynigion—ac nid oes gennyf reswm i gredu nad ydynt; ac yn wir, mae'r weledigaeth yn un glodwiw—mae angen iddynt fod yn gwbl glir pa wasanaethau cyhoeddus a gaiff eu torri i ddarparu'r cyllid hwnnw. Ac mae angen iddynt fod yn agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â lle byddant yn dechrau gwneud yr arbediad hwnnw o £160 miliwn.
Fel Llywodraeth, mae gennym gyfrifoldeb i ddefnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol drwy sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn cyrraedd y rhai mwyaf anghenus, ac ar hyn o bryd, gyda'r gyllideb gyfyngedig a ddarperir inni gan Lywodraeth y DU, credaf mai'r dull wedi'i dargedu sydd gennym nawr yw'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau cyhoeddus. Fodd bynnag, nid yw hynny'n atal Llywodraeth Cymru rhag bod yn greadigol ac yn arloesol, a chredaf y dylem gydnabod pa mor effeithiol y bu ein dull o weithredu yn ystod COVID—ac mae gwersi i'w dysgu ar gyfer y tymor hwy—gan ymrwymo i weithio gyda'n rhanddeiliaid i barhau i chwilio am gyfleoedd, fel y dywedais, i helpu'r rhai mwyaf anghenus. Ond hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.