Datganiad gan y Llywydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 10:29 am ar 30 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 10:29, 30 Rhagfyr 2020

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, ac ar gais y Prif Weinidog, rwyf wedi galw'r Senedd i drafod diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd ac i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad ar y wybodaeth ddiweddaraf ar goronafeirws.

Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda. A dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.