Part of the debate – Senedd Cymru am 10:35 am ar 30 Rhagfyr 2020.
O dan ei holynydd Ceidwadol, treuliodd cytuniad Maastricht 1993 23 diwrnod yng Ngham Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin yn unig. Lywydd, rwy'n amau nad yw'r cofnod swyddogol yn cynnwys llawer o achosion lle rwyf wedi cyfeirio’n ffafriol at Mrs Thatcher, ond o leiaf, ymddengys bod y syniad o graffu seneddol wedi golygu rhywbeth iddi.
Wrth gwrs, bydd yr wrthblaid yma yn dweud bod hyn oll yn digwydd oherwydd diffyg amser, fel pe na bai'r Blaid Geidwadol wedi cael pedair blynedd a hanner i gyflawni cytundeb y dywedwyd wrthym mai hwnnw fyddai’r cytundeb hawsaf erioed, neu bydd Prif Weinidog y DU yn ein bygwth gyda’r canlyniadau os na fydd Bil y berthynas yn y dyfodol yn cael ei ddeddfu cyn nos yfory. Ond mae hynny’n gwbl anghywir. Bydd yr UE yn cymhwyso’r cytuniad ar sail dros dro, a bydd gan Senedd Ewrop sawl wythnos i ddeall goblygiadau testun sydd oddeutu'r un hyd â'r Beibl. Pam na allwn ninnau wneud yr un peth? Sut y mae adfer rheolaeth wedi dymchwel mor gyflym i fod heb reolaeth seneddol o gwbl?
Lywydd, dylai'r Senedd hon wrthod cymryd rhan yn y fath esgus o graffu. Y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru weld hyd yn oed un cymal o'r cytuniad oedd ar Ddydd Nadolig. Mae'r Bil ei hun, y gofynnwyd inni roi cydsyniad iddo, wedi bod gyda ni am un diwrnod gwaith, a hynny o dan embargo llym. Mae'n amlwg yn amhosibl i unrhyw un yn y Senedd hon fod â dealltwriaeth glir o'r ffyrdd y bydd y Bil hwn yn effeithio ar ein cymhwysedd. Pan gyflwynwyd y cynnig i’w drafod gennym heddiw, Lywydd, ni allem gyfeirio at y Bil gan nad oedd wedi'i gyflwyno ac nid oedd yn gyhoeddus. A phe baem wedi gohirio'r ddadl tan yfory, byddai hynny wedi bod ar ôl i’r Bil gael ei ddeddfu. Nid fel hyn y dylai democratiaeth weithio. A gadewch imi ddweud yn glir, o dan yr amgylchiadau hyn, na fydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynnig i geisio rhoi na gwrthod cydsyniad o dan amgylchiadau o'r fath.
Nawr, mae gwelliant y Blaid Geidwadol yng Nghymru i’r ddadl yn ein gwahodd i roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil na allant fod wedi'i ystyried. Byddwn yn gwrthwynebu'r gwelliant hwnnw, a'r gwelliant yn enw Caroline Jones, sy'n ceisio ailymladd brwydrau y mae'r gwelliant hwnnw ei hun yn dweud y dylid eu hanghofio. Ni allwn gefnogi’r trydydd gwelliant, gan Blaid Cymru, nad yw’n cydnabod bod cytundeb yn well na bod heb gytundeb, am y rhesymau rwyf eisoes wedi’u nodi. Bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y pedwerydd gwelliant a’r olaf ar y papur trefn heddiw, Lywydd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cytundeb, ond nid ydym ychwaith yn credu mai lle’r Senedd yw cyfarwyddo ASau ynglŷn â sut y dylent bleidleisio fwy nag y byddai Aelodau o’r Senedd yn barod i dderbyn cyfarwyddiadau gan bleidiau yn San Steffan.
Lywydd, daw hyn oll â mi at fy nhrydydd pwynt. Pam yn union nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi mwy o amser i Senedd y DU a deddfwrfeydd eraill y DU graffu ar y cytuniad hwn? Mae'r ateb yn syml: mae Llywodraeth y DU yn dymuno rhoi’r Bil ar y llyfr statud cyn i holl fanylion y cytundeb hwn gael amser i ddod i'r amlwg. Ond gwyddom yma y bydd busnesau’n cael cytuniad a fydd yn gwneud masnachu gyda'n marchnad fwyaf a phwysicaf yn ddrytach ac yn anoddach—colli contractau oherwydd trefniadau rheolau tarddiad newydd; cost tystysgrifau iechyd allforio ac archwiliadau iechydol a ffytoiechydol ar gyfer allforion amaethyddol a bwyd, o ran amser ac arian; diwedd cydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas â chymwysterau proffesiynol; y methiant i gynnwys mynediad at y farchnad sengl ar gyfer gwasanaethau'r DU, sy'n golygu y bydd yn rhaid i fusnesau ddibynnu ar 27 set wahanol o reolau cenedlaethol i fasnachu ledled yr UE, pan mai un yn unig sydd ganddynt heddiw. Mae hwn yn gytundeb gwael i fusnes ac i fusnesau yma yng Nghymru.
Ac i'n cyd-ddinasyddion, beth fydd y cytundeb hwn yn ei olygu? Ciwio mewn meysydd awyr, fisâu ar gyfer cyfnodau hirach dramor a cholli’r rhyddid i fyw ac i weithio yn unrhyw le ar draws cyfandir Ewrop, ffonau symudol lle mae galwadau'n costio mwy o lawer neu efallai na fyddant yn gweithio o gwbl, llai o bobl o'r Undeb Ewropeaidd yn gallu gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn gofalu am bobl yma yng Nghymru sydd angen eu help. Ac i'n pobl ifanc yn benodol, Lywydd, fandaliaeth ddiwylliannol eu hatal rhag cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+, y rhaglen gyfnewid ryngwladol fwyaf erioed, y mae pobl o Gymru wedi gwneud cymaint o waith ar ei llunio a'i meithrin. Yn lle hynny, byddwn yn cael cynnig system Seisnig, oherwydd gadewch inni fod yn onest, dyna a gynigir bellach: cynllun a wnaed yn San Steffan ac a weinyddir yn Whitehall, gyda'r holl gyfrifoldebau sydd gan y Senedd hon dros addysg bellach ac uwch yng Nghymru nid yn unig yn cael eu hisraddio, ond yn cael eu hanwybyddu yn gyfan gwbl.
Lywydd, yn wahanol i bleidiau eraill yma yn y Siambr hon, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dadlau bod cytundeb yn well na bod heb gytundeb. Mae hyd yn oed y cytundeb tenau a siomedig hwn, sydd mor wahanol i'r hyn a addawyd, yn well na'r chwerwder a'r anhrefn a fyddai wedi deillio o fod heb gytundeb o gwbl. Bydd y Llywodraeth hon nawr yn dyblu ein hymdrechion i weithio gyda busnesau ym mhob rhan o'n gwlad i gyfyngu ar y difrod y mae'r cytundeb hwn yn parhau i'w wneud, i weithio gyda'n gwasanaethau cyhoeddus i gyfyngu ar y difrod a wneir i ddinasyddion Cymru, yn hen ac ifanc, ac i weithio gyda'n ffrindiau a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd i ailddatgan penderfyniad y genedl Gymreig hon i barhau i edrych tuag allan, gyda phersbectif rhyngwladol, ac i fod yn groesawgar i weddill y byd. Lywydd, diolch yn fawr.