Part of the debate – Senedd Cymru am 12:02 pm ar 30 Rhagfyr 2020.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu efallai fod arweinydd yr wrthblaid wedi darllen crynodeb hyrwyddo Llywodraeth y DU yn hytrach na'r cytundeb ei hun, fel y dywedodd Alun Davies. Cyfeiria Paul Davies ato fel cytundeb masnach rydd, ond mae'r cytundeb hwn yn golygu, o 1 Ionawr ymlaen, y bydd allforwyr Cymru yn wynebu masnach gyda'n partner mwyaf sy'n llawer llai rhydd, gyda rhwystrau cwbl newydd i fasnach, ac, ar ben hynny, bydd gan ein hasiantaethau gorfodi lai o offerynnau at eu defnydd i'n cadw'n ddiogel, a bydd gan ein dinasyddion lai o hawliau i fyw lle ac yn y modd y dewisant.
Ac ar adeg pan fo gweddill y byd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn dod yn fwy rhyngddibynnol ac integredig, mae Llywodraeth y DU wedi ein gwthio tuag at fod yn ynysig drwy flaenoriaethu syniad hollol anfodern ac afreal sofraniaeth. Ni allai disgrifiad Siân Gwenllian yn ei chyfraniad i'r cynnig fel gwahoddiad i gefnogi'r nodwedd hon yn llythrennol fod ymhellach o'r realiti.
Byddem ni yn Llywodraeth Cymru wedi gosod llwybr gwahanol, ond rydym drwyddi draw wedi ceisio chwarae rôl adeiladol wrth ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar negodiadau—blaenoriaethau clir wedi'u cefnogi gan dystiolaeth gadarn. Mae'n ofid i mi na chawsom ein cynnwys gan Lywodraeth y DU yn y negodiadau ar unrhyw adeg yn y ffordd roedd y Senedd hon a phobl Cymru yn ei disgwyl. Dim ond oriau cyn iddo gael ei gyhoeddi y cawsom fanylion y cytundeb ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, dim ond y noson cyn iddo gael ei roi ar-lein y cawsom fersiwn ddrafft o'r Bil.
Nododd Mick Antoniw yn ei sylwadau y ffordd roedd Llywodraeth y DU wedi methu ystyried atebolrwydd democrataidd yn y Bil hwn, ac ni all fod yn sail i'r Senedd hon gydsynio i un o'r darnau mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth ers cenhedlaeth. Ar y sail honno, rydym yn gwrthod gwelliant y Ceidwadwyr ac rydym hefyd yn gwrthod gwelliant Caroline Jones, sy'n disgrifio byd mor bell o realiti bywydau pobl ac a fyddai'n niweidio bywoliaeth pobl yng Nghymru i'r fath raddau.
O ran y gwelliannau gan Blaid Cymru, ar welliant 3 byddwn yn pleidleisio yn erbyn, nid am ein bod yn anghytuno â gair o'r hyn y byddai'n ei ychwanegu—rhywbeth a nodwyd gan Dai Lloyd, ac yn wir roedd yn ailadrodd geiriau'r Prif Weinidog wrth wneud hynny—ond oherwydd yr hyn y byddai'n ei ddileu. Er mor wan yw'r cytundeb, gofynnir inni gredu fod Plaid Cymru bellach yn credu nad yw gadael heb gytundeb yn waeth. Wel, nid yw hwnnw'n safbwynt credadwy. Byddwn yn ymatal ar welliant 4. Er gwaethaf yr hyn a ddywed arweinydd Plaid Cymru, y gwir amdani yw y byddai ef, bob un ohonom yn wir, yn gandryll pe bai Senedd San Steffan yn ein cyfarwyddo ni sut y dylem bleidleisio, felly ni allwn gyhoeddi gwaharddebau tebyg iddynt hwy.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn droi at ein parodrwydd ar gyfer yr hyn y mae Michael Gove yn ei galw'n 'daith ysgytiog' dros yr wythnosau nesaf. Mae'r llwybr a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a'u penderfyniad i fwrw ymlaen o dan unrhyw amgylchiadau a phob amgylchiad, waeth pa mor heriol, wedi golygu y buom yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yn sgil anrhaith gwaethaf yr epidemig COVID. Ond yn ein cynllun gweithredu ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, rydym wedi nodi beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r risgiau posibl o darfu ar y cyflenwad nwyddau ac i baratoi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y newidiadau mawr sy'n dod i rym o nos yfory ymlaen. Cawn ein barnu, a hynny'n briodol, ar y ffordd y defnyddiwn yr ychydig ysgogiadau sydd gennym at ein defnydd, a byddwn yn sicrhau bod Llywodraeth y DU hefyd yn cael ei dwyn i gyfrif am y gweithredoedd y maent yn gyfrifol amdanynt.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn oriau olaf y cyfnod pontio ac ychydig yn fwy na diwrnod i ffwrdd o berthynas newydd â'n partneriaid Ewropeaidd. Nid oes angen unrhyw gyngor ar Lywodraeth Cymru gan feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn ag edrych i'r dyfodol. Yn sicr, nid ni yw'r rhai sydd wedi cael ein llyncu gan ryw hiraeth niwlog am orffennol wedi'i ddelfrydu yn yr ymdrech hon. Ond wrth edrych fel y gwnawn i'r dyfodol, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd Dawn Bowden wrthym yn ei chyfraniad heddiw: gadewch inni beidio ag anghofio mai negodiadau Llywodraeth y DU oedd y rhain, a chytundeb Llywodraeth y DU yw hwn. A hwy, yn y pen draw, fydd angen eu dwyn i gyfrif gan bobl Cymru am ei ganlyniadau.