Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cafodd y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol ei gyfeirio at y pwyllgor iechyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Cynhaliodd y pwyllgor alwad agored am dystiolaeth ysgrifenedig, ac fe glywon ni yn ôl gan Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru, Conffederasiwn GIG Cymru a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Hefyd, fe ysgrifennon ni at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am sawl pryder gafodd eu nodi yn y memorandwm ei hun, ac fe gawson ni sesiwn graffu gyda’r Gweinidog ar 30 Medi.
Ar adeg llunio'n hadroddiad, roedd y Gweinidog wedi gallu sicrhau cytundeb gan Weinidog y Deyrnas Unedig oedd yn arwain ar y Bil i gyflwyno gwelliant a fyddai'n galw am ymgynghori gyda Gweinidogion Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth wneud rheoliadau ar gyfer cyflwyno system wybodaeth am ddyfeisiau meddygol. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog ei fod yn awyddus am rywbeth mwy na hyn. Roedd ei swyddogion wrthi'n gweithio ar set o egwyddorion eang a fyddai'n siapio'r rheoliadau mewn ffordd a fyddai'n dderbyniol i'r gweinyddiaethau datganoledig gyda'i gilydd. Pe bai pawb yn gallu cytuno ar yr egwyddorion hyn a'u hadlewyrchu yn y rheoliadau, dywedodd y Gweinidog y byddai hyn yn datrys ei bryderon i raddau helaeth, fel mae o wedi dweud eto heddiw.
Pan wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad, roedd y trafodaethau ar yr egwyddorion hyn yn y camau cynnar, gyda llawer o'r manylion i'w datrys o hyd. Gan nad oedd yr holl wybodaeth angenrheidiol gennym ni i ffurfio barn ar rinweddau'r memorandwm, ni wnaethom argymhelliad i'r Senedd ynglŷn ag a ddylem gefnogi'r memorandwm ai peidio. Ers yr adroddiad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r memorandwm atodol sydd ger ein bron ni heddiw. Yn ogystal â hynny, yr wythnos diwethaf, fel rydym ni wedi clywed, ysgrifennodd y Gweinidog ataf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac i rannu memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft sy’n cynnwys sicrwydd yn ymwneud â gweithrediad a llywodraethiant y system wybodaeth am ddyfeisiau meddygol. Yn yr amser a oedd ar gael, nid yw'r pwyllgor wedi gallu trafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol na llythyr y Gweinidog yn ffurfiol. Felly, nid ydym wedi diweddaru ein hadroddiad cynharach ac nid ydym yn gallu cynnig unrhyw farn bellach, heblaw nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, fel sydd wedi'i nodi yn y memorandwm atodol, ei bod yn cefnogi'r polisi y tu ôl i'r Bil, a safbwynt y Gweinidog, sydd wedi'i nodi yn ei lythyr ataf i, fod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft yn cynrychioli dull cyfaddawdu cadarnhaol sy’n rhoi sicrwydd digonol iddo allu argymell bod y Senedd yn cymeradwyo’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, er nad yw’r trefniadau o ran llywodraethu’r system wybodaeth arfaethedig am ddyfeisiau meddygol yn mynd cyn belled ag y byddai’n dymuno o ran llywodraethu gweinidogol ar y cyd. Diolch yn fawr.