Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 12 Ionawr 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, a'r eitem gyntaf i bleidleisio arni yw eitem 6, sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.