Pandemig COVID-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:30, 12 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ymateb yna. Mae ein cyfradd frechu wedi bod yn is na rhannau eraill o'r DU hyd yma. Mae'r gyfradd yn Lloegr tua 3.5 y cant o'r boblogaeth, ac yng Nghymru mae wedi bod yn 2.7 y cant. Er eich bod chi wedi ceisio bychanu'r gwahaniaeth hwn, mae'n gyfystyr â 25,000 o bobl ychwanegol y gellid bod wedi eu brechu yng Nghymru pe byddech chi a'ch Gweinidog iechyd wedi bod yn effro. O gofio nad yw eich Gweinidog iechyd hyd yn oed wedi camu i mewn ysbyty GIG yn y misoedd diwethaf gan ei fod yn poeni y bydd ar y ffordd, a oes angen iddo ymddiswyddo nawr fel nad yw ar y ffordd o ran brechu mwy o bobl, ac a oes angen i ni fabwysiadu dull o frechu a arweinir gan y DU bellach?