Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Ionawr 2021.
Prif Weinidog, mae ffigurau yn bwysig. Mae'n bwysig bod aelodau'r cyhoedd ac Aelodau'r Senedd hon ac aelodau'r Llywodraeth yn cael cyfle i graffu ar gyflymder cynnydd y clefyd, a hefyd, wrth gwrs, cyflymder cyflwyniad y brechiad yma yng Nghymru, o ran y rhaglen. Mae llawer o bobl yn y gogledd wedi bod mewn cysylltiad â mi yn yr wythnosau diwethaf oherwydd, wrth gwrs, mae'n ymddangos bod y gogledd ar ei hôl hi braidd o ran cyflymder y cynnydd o ran cyflwyno'r rhaglen, er bod y bwlch rhwng y gogledd a rhannau eraill o'r wlad yn dechrau cau, ac rwy'n falch o fod wedi nodi hynny.
A ydych chi'n derbyn bod angen i ni gyhoeddi data pellach yn fwy rheolaidd, ac y dylem ni, yn ddyddiol, fod yn cyhoeddi, fesul bwrdd iechyd, nifer y dosau o frechiad a roddwyd, cyfran y rhai a roddwyd i bob un o'r grwpiau blaenoriaeth ac, yn wir, gwybodaeth am apwyntiadau a fethwyd, yr wyf i wedi bod yn cael adroddiadau ohonyn nhw yn rhai o'r canolfannau brechu, sydd wrth gwrs yn amddifadu pobl eraill sydd angen cael eu brechiadau yn gyflym er mwyn eu diogelu rhag y clefyd ofnadwy hwn?