Credyd Cynhwysol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:11, 12 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn yna. Rydym ni wedi a byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gynnal y taliad credyd cynhwysol ychwanegol wythnosol o £20 ac i gyhoeddi hyn ar unwaith. Os na fyddan nhw'n gwneud hynny, bydd llawer o aelwydydd yng Nghymru—300,000 ohonyn nhw—yn colli dros £1,000 y flwyddyn. Mae'r ansicrwydd hwn yn achosi lefelau enfawr o bryder i rai o'n teuluoedd mwyaf agored i niwed.