Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 12 Ionawr 2021.
Mae'r rhestrau ym mhob un o lysoedd ynadon y gogledd bellach yn debyg i'r hyn yr oedden nhw cyn COVID, ac mae pob un o lysoedd barn y Goron yn y gogledd wedi'u gwneud yn ddiogel ar gyfer achosion gyda rheithgor. Rydym yn ceisio sicrwydd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi bod y mesurau presennol yn addas o ystyried pa mor drosglwyddadwy yw'r feirws ar hyn o bryd. Mae darparwyr sy'n darparu gwasanaethau cynghori drwy gronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod modd cael cyngor o bell yn ystod y pandemig.