Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 12 Ionawr 2021.
Rydym ni wedi cael trafodaethau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â chyfleusterau llys priodol ledled Cymru at y dibenion y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw heddiw. Cafwyd rhaglen i ailddechrau defnyddio llysoedd ynadon, a safbwynt y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw bod hynny'n gweithio i raddau helaeth i adfer capasiti ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys yn y gogledd. Ac yn system llysoedd y Goron, bu rhywfaint o waith adnewyddu a gwaith addasu at ddibenion gwahanol yn y llysoedd barn er mwyn ehangu capasiti, ac, fel y gŵyr yr Aelod, yn y de yn benodol, y defnydd o lysoedd Nightingale hefyd. Ond mae'r sylw y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, gan y gellir teimlo effaith COVID mewn sawl agwedd wahanol ar ein cymdeithas, ac yn amlwg yn y system gyfiawnder hefyd. Ac rwy'n falch ei bod wedi tynnu sylw at y mater hwn yn y trafodion heddiw; mae'n fater yr ydym ni, y Llywodraeth, yn parhau i bwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei gylch.