4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Strategaeth Frechu COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:40, 12 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Gan droi at eich pwynt cyntaf chi ynglŷn â'r gwanwyn, tymor yw'r gwanwyn ac nid yw'n dymor sydd byth yn darfod. Felly, ni fydd gennych chi syniad fel hyn, fel yr awgrymodd David Jones pan oedd ef yn y Swyddfa Gymreig, fod y gwanwyn a'r haf yn para wedyn, rywsut, tan yr hydref a'r gaeaf. Y rheswm pam rydym ni wedi nodi'r gwanwyn fel amserlen amlinellol yw bod hynny'n rhan wirioneddol o'n sefyllfa ni o ran cyflenwad y brechlynnau. Pe bai gennyf i sicrwydd llwyr o'r cyflenwad o frechlynnau hyd at ddiwedd mis Ebrill, mae'n debyg y gallwn ni roi amserlen lawer cliriach ichi. Ond fe geir peth ansicrwydd ynglŷn â hyn. A bod yn deg, nid wyf i'n credu y byddai Llywodraeth y DU yn gallu rhoi gwarant cwbl gadarn imi ar hyn o bryd o bob cludiad a ddaw cyn diwedd mis Ebrill. Fe fyddwn ni'n rhoi mwy o fanylion, wrth inni adolygu'r cynllun, ynghylch pryd yn y gwanwyn y byddwn ni'n credu y gallwn gwblhau'r holl flaenoriaethau yng ngham 1. Ond, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd, rydym ni yn disgwyl gwneud hynny cyn diwedd y gwanwyn.

Pe byddai yna her gyda'r cyflenwad o frechlynnau, pe byddai her o ran y gweinyddu, rydym ni am fod yn gwbl agored ynglŷn â hynny. Rydych chi'n cofio i ni gael achos o COVID yng nghanolfan frechu torfol Caerdydd. Fe wnaethom ni golli mwy na dau ddiwrnod o weinyddu, oherwydd fe fu'n rhaid ymdrin â'r achos hwnnw, fe fu'n rhaid glanhau'r safle a bu'n rhaid dod â staff i mewn nad oedd â chysylltiadau er mwyn parhau i redeg y ganolfan. Felly, mae'n bosibl bob amser i ddigwyddiadau ymyrryd, mae'n bosibl bob amser y bydd toriad yn y cyflenwad, ond pe byddai yna unrhyw her fel hynny, rydym ni am fod yn gwbl agored ynglŷn â'r sefyllfa honno ac, yn hollbwysig, ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud er hynny i sicrhau parhad y rhaglen.

O ran y manylion sylweddol yr ydych yn gofyn amdanyn nhw o ran ffigurau dyddiol, nid wyf i o'r farn mai honno yw'r flaenoriaeth i ni bob dydd ar hyn o bryd. Fe fydd gennym ni fanylion wythnosol a fydd yn rhoi llawer mwy o fanylion o ran cyflwyniad y rhaglen, ac rwy'n siŵr, pan fydd pobl wedi dod yn gyfarwydd â'r gyfres wythnosol honno o ddata, y byddant yn barod i ofyn cwestiynau a chraffu ar yr hyn y mae'r data hyn yn ei gyfleu yn fanwl. Pe byddwn i'n ceisio dweud fy mod i'n dewis gweld y gyfradd honno o fanylder bob dydd, fe fyddai angen rhoi mwy o amser, egni ac ymdrech i hynny wrth olrhain y data a'u dadansoddi nhw i wneud cyfiawnder â'r gwaith, ac rwy'n amau y byddai'n rhaid inni roi amodau sylweddol ynglŷn â'r wybodaeth yn y pen draw. Mae'n rhaid gofyn ai'r dewis cywir yw buddsoddi mewn cofnodi data i fodloni gofynion yr Aelod ynglŷn ag ystadegau pob diwrnod unigol, neu a ydym yn dymuno gweld mwy o ganolbwyntio a blaenoriaeth o ran gweinyddu'r brechlyn. Ond fe fydd yna wybodaeth reolaidd yn wythnosol y byddwn ni'n ei darparu i Aelodau a'r cyhoedd yn fwy eang.

O ran eich pwynt chi am flaenoriaethu—fe ofynnwyd y cwestiwn hwn i mi sawl tro—mae'n ymddangos mai rhyw ddyrnaid o enghreifftiau ydyn nhw y mae'r byrddau iechyd wedi edrych arnynt i ddeall beth sy'n digwydd, yn fy marn i. Nid oes gennyf i unrhyw broblem o gwbl gyda dosau ar derfyn dydd, i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu gwastraffu, yn cael eu cynnig i staff iechyd neu ofal sydd o gwmpas, neu, yn wir, i'r cyhoedd. Nid wyf i o'r farn mai hwnnw yw'r cwestiwn mwyaf o ran polisi y mae angen imi fynd i'r afael ag ef fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am weinyddu brechlynnau. Fy ngwaith i yw sicrhau ein bod ni'n cadw at y rhestr flaenoriaethu sydd gennym ni, ein bod ni'n sicrhau nad oes gennym bobl yn sleifio i'r grŵp hwnnw, rywsut, drwy dwyllo'r system, sydd wedi bod yn ofid i mi. Mae rhai pobl wedi dweud wrthyf eu bod nhw, rywsut, wedi gallu neidio'r ciw mewn ffordd sydd â dim i'w wneud â dyrnaid o ddosau ar derfyn dydd, rhywbeth nad wyf i'n credu y bydd unrhyw un yn poeni'n arbennig amdano. Rwyf i wedi gofyn i'r byrddau iechyd unwaith eto, a'm dealltwriaeth i yw eu bod nhw'n dilyn y rhestr o flaenoriaethu mewn ffordd briodol. Ond mater i bob un ohonom ni yw ymddwyn yn egwyddorol, ac os oes yna ddolen yn cael ei chynnig ichi ar gyfer neidio'r ciw dros bobl eraill sy'n wynebu cleifion wrth eu gwaith, mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i beidio â gwneud hynny a mynd o flaen pobl eraill sy'n rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd ar ein rhan ni.

O ran gweithio am saith diwrnod yr wythnos, rydym yn gweld llawer o weithio dros benwythnosau eisoes, ac rwy'n disgwyl y bydd pob bwrdd iechyd yn gweithio am saith diwrnod o bryd i'w gilydd yn ystod y rhaglen gweinyddu brechlynnau. Rwy'n gobeithio bod hynny o fudd, i egluro hynny. Mae meddygon teulu yn gweithio gyda byrddau iechyd o ran cyflenwi o ran y blaenoriaethau. Maen nhw'n gweithio gyda llywodraeth leol hefyd. Fe fydd pob bwrdd iechyd a detholiad o bartneriaid llywodraeth leol yn cyfarfod dros y dyddiau nesaf, os nad ydyn nhw wedi cyfarfod yn barod, i fynd trwy fanylion eu rhaglen nhw. Fe fyddan nhw'n gallu mynd drwy'r hyn y gallan nhw ei wneud gyda gofal sylfaenol i sicrhau bod ganddyn nhw safleoedd sy'n addas, oherwydd, fel y dywedais i, fe fydd llawer o safleoedd gofal sylfaenol yn adeiladau addas at y diben o redeg canolfan frechu—un leol. Er hynny, efallai na fydd rhai ohonyn nhw—ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r meddygon teulu sy'n gweithio o feddygfa a addaswyd yn wreiddiol o res o dai teras—yn briodol fel lleoliad ar gyfer brechu. Ond mae hyn yn ymwneud â pha leoliadau addas sydd gennym ni mewn cymunedau lleol sy'n hygyrch i bobl fel y ceir cynnydd o ran niferoedd a chyflymder.

O ran y cwestiwn ynglŷn â grwpiau galwedigaethol a'r rhestr flaenoriaethau, rwy'n credu imi fod yn eglur iawn yn hyn o beth ac rwy'n hapus i egluro'r sefyllfa unwaith eto. Mae gennym ni restr o grwpiau blaenoriaeth oddi wrth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a gafodd ei gymeradwyo ganddo a fydd yn ein helpu ni o ran 99 y cant o'r marwolaethau y gellir eu hosgoi—dyna yw cam 1. Pe byddem ni'n ychwanegu at honno rai nad ydyn nhw ar y rhestr, yna fe fyddem ni'n amddifadu pobl sydd yn y grŵp mwyaf agored i niwed. Felly, o ran athrawon, swyddogion yr heddlu neu'n unrhyw grŵp arall, os rhoddir lle iddyn nhw ar gam 1, fe fyddai rhywun arall sydd â mwy o angen yn cael ei amddifadu. Meddyliwch chi am y peth fel hyn: os ydych chi'n drydydd ar ddeg yn y ciw, a'ch bod chi'n cael eich symud i'r degfed lle, ni allwch chi ddweud wedyn, 'Nid wyf i'n galw am amddifadu neb, dim ond i mi gael bod yn ddegfed.' Mae'r rhai a oedd o'ch blaen chi y tu ôl ichi erbyn hyn. A'r cyngor eglur iawn a gawsom ni yw pe byddem ni'n gwneud hynny, ar gyfer pa grŵp o weithwyr rheng flaen bynnag, yna fe fyddai hynny'n golygu y byddem ni'n gwneud dewis bwriadol a fyddai'n rhoi pobl eraill mewn perygl, ac fe fyddai hynny'n achosi anfon cleifion i'r ysbyty a marwolaethau y gellir eu hosgoi.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r pwynt, ac fe fyddwn innau'n ailadrodd mai dyna pam mai'r dull hwn sydd gennym ni. Nid penderfyniad mympwyol mohono, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â diogelu'r cyhoedd ac achub bywydau. Fe wn i fod yr Aelod yn deall hynny ac y bydd ef yn cefnogi'r dull hwn; mae yna leisiau eraill, wrth gwrs, sy'n mynegi safbwynt arall ac wedi mynnu ein bod ni'n defnyddio dull hollol wahanol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau o bob lliw gwleidyddol yn deall mai hwnnw yw'r dewis yr ydym ni'n ei wneud. Dyna'r penderfyniad a wneuthum i yma yng Nghymru, ac nid wyf i'n mynd i wneud dewis arall a fyddai o bosibl yn cadw grŵp unigol o randdeiliaid yn hapus am ychydig funudau. Fe fyddai hynny, rwy'n siŵr, yn achosi llawer mwy o ofid a dryswch ac, a dweud y gwir, yn arwain at farwolaethau y gellid eu hosgoi.