Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a gwnaf yr adroddiad hwn eto yng nghyswllt eitemau 6, 7, 8 a 9. Mae rheoliadau Rhif 5 y cyfyngiadau coronafeirws, fel y mae'r Gweinidog wedi adrodd, yn gosod nifer o gyfyngiadau a gofynion mewn ymateb i'r risg i iechyd y cyhoedd sy'n deillio o'r coronafeirws, cyfyngiadau a fydd bellach yn gyfarwydd i Aelodau. Ers eu llunio, mae rheoliadau Rhif 5 eisoes wedi'u diwygio ac mae'r rheoliadau diwygio perthnasol hefyd yn rhan o'r ddadl heddiw. Bydd yr Aelodau'n gwybod, yn wreiddiol, fod rheoliadau Rhif 5 i fod i ddod i rym, fel y dywedwyd, ar 21 Rhagfyr, ond, yn rhinwedd y rheoliadau diwygio, daethant i rym, mewn gwirionedd, ar 20 Rhagfyr 2020, am y rhesymau y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu. A bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod y dônt i ben ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth.
Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae rheoliadau Rhif 5 yn cymhwyso pedair lefel rhybudd, ac mae cyfyngiadau gwahanol yn berthnasol ym mhob lefel rhybudd. Mae ein hadroddiadau ar reoliadau Rhif 5 a'r ddwy gyfres o reoliadau diwygio yn codi pwyntiau rhinwedd cyfarwydd, sef cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosib â hawliau dynol, y mae'r pwyllgor yn amlwg yn ei ystyried yn ofalus iawn; y mater o beidio ag ymgynghori'n ffurfiol, ond, unwaith eto, am resymau a amlinellwyd yn flaenorol; ac nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal—unwaith eto, am resymau tebyg. Fe wnaethom ni nodi hefyd fod y dystiolaeth wyddonol wedi'i defnyddio i asesu peryglon i iechyd y cyhoedd wrth wneud y rheoliadau. At hynny, rydym ni hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y ddwy gyfres o reoliadau diwygio wedi dod i rym cyn eu cyflwyno gerbron y Senedd. Nawr, o ran y gyfres gyntaf o reoliadau sy'n diwygio rheoliadau Rhif 5, fe wnaethom ni sylwi ar wall drafftio. Fel y nododd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb, a dderbyniwyd ddoe, mae darpariaethau perthnasol rheoliadau Rhif 5 bellach yn amherthnasol, ar ôl cael eu dirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2021, a wnaed ar 8 Ionawr 2021.
Os trof yn awr at Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020, sy'n diwygio'r rheoliadau teithio rhyngwladol o dan reoliadau Rhif 5, maen nhw'n gwneud newidiadau sy'n ofynnol oherwydd y peryglon iechyd sy'n dod i'r amlwg a adroddwyd o Dde Affrica y mae'r Gweinidog wedi sôn amdanyn nhw o ran y math newydd o'r coronafeirws ac, unwaith eto, fel y mae wedi sôn amdano, rhwyddineb trosglwyddo’r math hwnnw. Nodwyd pedwar pwynt adrodd technegol yn ymwneud â gwallau drafftio ac anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r rhain a bydd yn gwneud cywiriadau yn ôl yr angen. Unwaith eto, mae pedwar pwynt rhinwedd ynglŷn â'r rheoliadau hyn yn tynnu sylw at y materion cyffredin a chyfarwydd a ystyriwn: yr ymyrraeth â hawliau dynol, diffyg ymgynghori ffurfiol, a diffyg asesiad effaith rheoleiddiol, oherwydd, unwaith eto, y rhesymau a nodwyd, yr ydym ni yn gyfarwydd â nhw. Ac eto, hefyd, daeth y rheoliadau hyn i rym cyn eu cyflwyno. Diolch, Dirprwy Lywydd.