6., 7., 8. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:12, 12 Ionawr 2021

Dwi am gadw fy sylwadau i'n gymharol fyr. Mi gyfeiriaf i yn sydyn at eitemau agenda 7, 8 a 9. Yn gyntaf, y rheoliadau ynglŷn â newid y dyddiad cyflwyno cyfyngiadau mis Rhagfyr ydy rhif 7. Mae'r ail yn cyflwyno trosedd yn gysylltiedig â gwerthiant alcohol ar ôl 10 y nos, a newid i'r rheoliadau o ran teithio o Dde Affrica ydy eitem 9. Does gen i ddim sylwadau i'w gwneud am y rheini, mewn difrif. Maen nhw'n synhwyrol. Mi fyddwn ni'n eu cefnogi nhw.

Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r prif reoliad sydd gennym ni o'n blaenau o dan eitem 6, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Dyma'r rheoliadau, fel mae'r memorandwm esboniadol yn nodi, sydd yn nodi'r cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys o dan bedair lefel, sef cyflwyno'r system pedair lefel newydd, a'r cyd-destun sydd gennym ni ydy'r cyfyngiadau presennol. Cyfyngiadau lefel 4 sydd gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer Cymru gyfan.

Dwi'n gwbl gyfforddus, o edrych ar le rydym ni arni heddiw, ei bod hi'n iawn ein bod ni i gyd o dan y cyfyngiadau lefel 4. Rydym ni i gyd mewn lle hynod o fregus ar hyn o bryd. Mae hynny ar ei amlycaf yn nwyrain Cymru, yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain, ond mae pob rhan o Gymru yn profi nifer o achosion lle mae angen gweithredu yn llym iawn. A dwi yn gwneud y pwynt eto yn fan hyn wrth y Gweinidog: nid patrwm de/gogledd mae'r pandemig wedi ei ddilyn, ond dwyrain/gorllewin. Dydy cyfeirio, dro ar ôl tro, at 'north Wales' fel petasai fo'n un lle homogenous ddim yn ddefnyddiol iawn. Mae heriau'r gogledd-ddwyrain a'r gogledd-orllewin yn gallu bod yn wahanol iawn yn nhermau'r pandemig yma, fel mae heriau'r de-orllewin a'r de-ddwyrain. Ond fel dwi'n dweud, mae'r perig sydd gennym ni rŵan yn wynebu pawb ar hyn o bryd, er gwaethaf y gwahaniaethau o hyd mewn lefelau.

Ond dwi yn gofyn i'r Llywodraeth eto, pan ddaw hi yn amser, gobeithio, i allu edrych ar lacio cyfyngiadau, i ddefnyddio'r gallu sydd yna o fewn y rheoliadau yma, ac fel mae'r Prif Weinidog ei hun wedi dweud ei fod o'n fodlon gwneud, i weithredu drwy amrywio'r gefnogaeth sydd angen ei rhoi i wahanol ardaloedd. Mae'r rheoliadau yn iawn. Rydym ni'n pleidleisio drostyn nhw heddiw. Sut maen nhw'n cael eu gweithredu sy'n bwysig yn y fan hyn, ac, wrth i ni edrych ymlaen a gobeithio am ddyddiau gwell o ran lefel yr achosion ac ati, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyflwyno mwy o ryddid i bobl er eu lles corfforol a meddyliol eu hunain, ac i fusnesau ac ati mor fuan â phosibl. Ac efallai na fyddwn ni'n gallu gwneud hynny i bawb ar hyn o bryd; mae'n bosib mai'r dwyrain fydd â'r sefyllfa fwy difrifol ymhen mis neu ddau—pwy a ŵyr?

Gaf i hefyd ofyn, oherwydd bod y rheoliadau'n ymwneud â chyfyngiadau ar ein gweithgareddau ni o bob math, ynglŷn ag awyr iach a gweithgareddau yn yr awyr iach? Mae yna gyfyngiadau sylweddol ar allu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, sydd yn gymharol ddiogel. Mae pobl yn cysylltu efo fi yn dweud, 'Pam na chawn ni ddim chwarae golff?', 'Pam na chawn ni ddim mynd ar daith fer i rywle awyr agored er mwyn llesiant?' Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae pobl o wahanol dai yn cael treulio amser yn ymarfer corff efo'i gilydd yn yr awyr agored, ac mae'n bwysig iawn dweud hynny, wrth gwrs, sydd eto yn dda iawn o ran llesiant unigolion. Felly, i ba raddau, hyd yn oed dan yr amgylchiadau heriol iawn o ran nifer yr achosion sydd gennym ni ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn dal yn edrych yn ofalus i weld tybed beth all gael ei ganiatáu ymhellach mewn ffordd ddiogel? Nid gofyn am ryw lacio mawr o gwbl ydw i dan y sefyllfa rydym ni ynddi hi, ond edrychwch drwy'r amser a oes yna fwy y mae'n bosib ei roi er mwyn rhoi rhagor o gyfle i bobl edrych ar ôl eu llesiant eu hunain, ac ati. Diolch.