Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ar y rhinweddau a'r craffu technegol. Mae hi wastad yn swyddogaeth bwysig sicrhau bod y gyfraith mor gyson â phosib, a hyd yn oed lle nad ydym yn cytuno, mae'n sicr, rwy'n credu, yn swyddogaeth bwysig o hyd i sicrhau bod y gyfraith yn briodol.
Gan droi at lefarydd iechyd y Ceidwadwyr, rwy'n falch o gael cefnogaeth i'r rheoliadau a nodwyd, a'r her ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio'r hyblygrwydd y mae'r lefelau rhybudd yn ei roi i ni o ran sut o bosib i liniaru'r rheolau yn y dyfodol, wel, mae rhai metrigau yn y lefelau rhybudd yn y cynllun y gwn y bydd yr Aelod wedi edrych arnyn nhw. Er hynny, rhaid inni hefyd gael dealltwriaeth ehangach o'r pwysau yr ydym ni yn ei wynebu yn y system a'r symudiad a welwn ni. Dyna pam yr ydym ni'n chwilio am welliant parhaus cyn ceisio dod lawr o lefel rhybudd 4, naill ai ar draws y wlad gyfan neu o bosib, fel yr wyf i a'r Prif Weinidog wedi awgrymu, mewn rhanbarthau o'r wlad hefyd.
Nawr, ni ellir disgrifio hynny'n daclus ar ddarn o bapur yn y ffordd y gellir disgrifio rhai o'r metrigau yn y cynllun. Ond rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, mai'r gwir anffodus amdani yw bod ein hunedau gofal critigol yn gweithredu ar dros 150 y cant ledled Cymru. Gwyddom fod gennym ni'r nifer mwyaf erioed o bobl sy'n defnyddio gwelyau ysbyty ar hyn o bryd. Gwyddom fod gennym ni ysbytai maes ar agor mewn gwahanol rannau o Gymru. Gwyddom fod gennym ni her wirioneddol o ran cael cleifion sy'n gwella allan o welyau acíwt, ac mae hynny'n rhannol oherwydd, i raddau sylweddol, bod gennym ni bwysau gwirioneddol yn ein system gofal cymdeithasol. Felly, heb weld adferiad o ran niferoedd staff yn y maes gofal cymdeithasol a'n gallu i roi pobl mewn gwahanol rannau o'r system lle gellir gofalu amdanyn nhw'n briodol, mae gennym y pwysau yna ar yr holl system y bydd cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol yn ei weld yn eu gwaith beunyddiol hefyd. Ac nid yw hynny mor hawdd ei ddisgrifio yn y math o fetrigau sydd gennym ni eisoes yn y cynllun.
Ond, wrth i ni fynd drwy bob un o'r adolygiadau rheolaidd a wnawn—rwy'n credu bod hyn yn ymdrin â rhai o'r pwyntiau yr oedd Rhun ap Iorwerth yn eu gwneud—mae gennym ni gyngor rheolaidd gan ein prif swyddog meddygol, ein cynghorydd gwyddonol a'r grŵp cynghori technegol, ac rwy'n credu ei fod yn beth da ein bod wedi arfer â phatrwm rheolaidd nawr o gyhoeddi cyngor y prif swyddog meddygol, ochr yn ochr ag unrhyw ddewisiadau a wnaiff Gweinidogion o ran y cyfyngiadau sydd ar waith. Felly, gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod ac i eraill sy'n gwylio. Nid mater o Weinidogion yn dewis gwneud pethau ar fympwy yw hyn; mae'n seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol. Mae hefyd yn seiliedig ar y cyngor iechyd cyhoeddus gorau sydd ar gael a byddwn yn parhau i fod yn dryloyw ynglŷn â hynny.
O ran sylw'r Aelod am basbortau brechu, mater o friffio yn y cyfryngau yn hytrach na pholisi yw hwn. Ni chafwyd trafodaeth ddifrifol o gwbl. Yn wir, nid wyf wedi cael un drafodaeth gyda Gweinidogion iechyd mewn rhannau eraill o'r DU ynglŷn â phasbortau brechu. Caiff y materion hyn yn aml eu codi cyn bod trafodaeth ddifrifol ac nid yw'n fater difrifol am y tro. Efallai fod rhywbeth tebyg i hynny, yn enwedig ar gyfer teithio rhyngwladol. Gallaf ragweld adeg yn y dyfodol, pan nad y dewisiadau polisi yn unig sy'n cael eu gwneud ledled y DU i gynnal profion cyn teithio, ond y potensial ar gyfer brechu yn y ffordd y mae rhai ohonom ni wedi arfer â hi sef yr angen i gael stamp brechlyn i deithio i rannau eraill o'r byd, rhywbeth yr ydym wedi arfer ag ef.
O ran eich cwestiwn, unwaith eto, am brofion labordai goleudy ar gyfer amrywiolyn Caint yn y DU, labordai goleudy yw'r rhain sy'n profi amdano. Dim ond llond llaw o'r rheini sydd yn y DU. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel y dywedais, yn gweithio gyda chydweithwyr yn Lloegr i gael sampl mwy cynrychioliadol o dde Cymru. Mae gennym ni ddealltwriaeth dda yn y gogledd.
Fel rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi gweld yn adroddiad y grŵp cynghori technegol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'n dewisiadau ysgolion, rydym ni wedi darparu map o le mae'r amrywiolyn newydd eisoes wedi ymsefydlu ac yn cael ei ddeall yng Nghymru. Mae'r map yn y gogledd yn fwy cynhwysfawr na'r un yn y de, ond mae'r darlun cyffredinol yn dangos ei fod ar led ym mhobman. Fodd bynnag, mae'r holl amrywiolynnau, gan gynnwys yr amrywiolynnau sy'n peri pryder, yn dal i ymddangos yn rhai positif yn y profion coronafeirws positif. Felly, gall pobl gael sicrwydd, os cânt brawf positif, hyd yn oed os yw'n amrywiolyn newydd o'r feirws sy'n destun pryder, y byddant yn cael prawf positif cywir.
Rwy'n gwybod nad oedd yr Aelod yn gallu bod yn bresennol yn y sesiwn friffio i'r pwyllgor heddiw gyda mi, y prif swyddog meddygol a'r prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd. Ond, unwaith eto, rydym ni wedi cael ar ddeall bod miloedd o amrywiadau o'r coronafeirws eisoes wedi'u nodi. Nid yw hynny, mewn sawl ffordd, yn broblem mewn gwirionedd. Fel y dywedodd y dirprwy brif swyddog meddygol yn gyhoeddus, mae pob feirws yn mwtadu ac yn newid ac mae ganddo amrywiadau.
Y broblem yw lle mae amrywiadau yn destun pryder a'r rhesymau dros hynny. Yn union fel y gwnaethom ni gyda'r amrywiad mincod yn Nenmarc, yn union fel sydd gennym ni gydag amrywiad De Affrica, yn union fel sydd gennym gydag amrywiolyn Caint, mae'r rhain yn fathau sy'n peri pryder oherwydd bod nodweddion penodol. Ymddengys bod gweithredu prydlon yn Nenmarc wedi osgoi'r niwed y gallai amrywiad mincod Denmarc fod wedi'i achosi wrth aildrosglwyddo i bobl, lle gallai fod wedi effeithio ar effeithiolrwydd brechlynnau. Mae hynny'n beth da. Rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, nid yn unig yn y DU ond ledled Ewrop, i rannu gwybodaeth.
O ran amrywiolynnau Caint a De Affrica, y natur fwy heintus, yn sicr, sy'n gyfrifol am ledaeniad amrywiolyn Caint ledled y DU. Mae cyfraddau llawer mwy o bobl yn yr ysbyty ym mhob gwlad yn y DU, a dyna pam y dywedodd Chris Whitty ddechrau'r wythnos hon mai dyma'r dyddiau anoddaf i'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ystod y pandemig. Wrth i amrywiolynnau sy'n peri pryder gael eu nodi, caiff gwybodaeth ei rhannu'n brydlon rhwng swyddogion a rhwng prif swyddogion meddygol. Yn wir, ceir sgyrsiau priodol ac aeddfed rhwng Gweinidogion iechyd pob un o bedair rhan y DU, waeth beth fo'n gwahanol bleidiau gwleidyddol.
Rwy'n falch o gael cefnogaeth eang Rhun ap Iorwerth a Phlaid Cymru i'r rheoliadau hefyd. Unwaith eto, y dull rhanbarthol ar gyfer y dyfodol: mae hyn yn wir ar gyfer y dyfodol. Nid ydym yn y sefyllfa yna eto, a bydd angen gwelliant sylweddol i gael gobaith realistig o ddod i lawr o lefel 4 ddiwedd y mis yma. Ond, rydym yn ystyried y sylw, os yw'r amrywiad rhanbarthol sylweddol hwnnw yn parhau, yna efallai y gallwn ni wneud dewisiadau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Rwy'n cydnabod y sylwadau y mae wedi'u gwneud ynghylch a ddylid caniatáu ymarfer corff os yw pobl yn gyrru neu'n teithio ychydig ymhellach i wneud ymarfer corff. Ond, i ailadrodd, a bod yn deg, mae'r Aelod wedi mynychu pob un—neu bron pob un—o'r sesiynau briffio yr ydym ni wedi'u darparu gyda mi a'r Prif Swyddog Meddygol i aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Yn y rheini, mae cyfle i ofyn cwestiynau ynghylch ble yr ydym ni arni ac am y cyngor a roddir am natur y bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac a oes rhywbeth i'w gyflawni wrth newid rhannau o'r rheoliadau neu'r drefn yr oedd gennym ni ar waith.
Y rheswm pam y mae gennym ni ofyniad 'aros gartref'—nid canllawiau, ond gofyniad ar hyn o bryd—yw oherwydd y difrifoldeb sydd gennym ni. Bydd hynny'n parhau'n wir hyd y gellir rhagweld, a gan ein bod yn gallu gwneud dewisiadau gwahanol—. Byddwch yn cofio, wrth lacio cyfyngiadau symud y gwanwyn, ein bod wedi gallu gwneud rhai dewisiadau gwahanol am allu pobl i symud o 'aros gartref' i 'aros yn lleol'. Nid ydym mewn sefyllfa i symud i 'aros yn lleol' ar hyn o bryd, felly mae'n bwysig iawn bod neges glir iawn gan y Llywodraeth ac, yn wir, yr holl Aelodau o bob cefndir gwleidyddol, fod y rheolau'n ei gwneud hi'n ofynnol i ni aros gartref.
Dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref p'un a ydych chi'n cerdded neu ar feic. Felly, dyna'r gofyniad. Pan fydd dewisiadau gwahanol ar gael i ni, byddwn yn awyddus i ni allu gwneud hynny, oherwydd byddai hynny'n arwydd ein bod mewn sefyllfa wahanol eto gyda chwrs y pandemig a'r amddiffyniad y gallwn ei ddarparu, gyda chyfres wahanol o ffyrdd i ni gyd wneud ein rhan i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.