Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 13 Ionawr 2021.
Iawn. Fe ailadroddaf unwaith eto fod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth, does bosibl. Rydym yn sôn am blant yn byw mewn tlodi, ac angen pob cymorth y gallant ei gael, ac o gyllideb o £22 biliwn, rhaid bod modd dod o hyd i £33 miliwn. Rydym wedi gweld gwarth y bocsys bwyd annigonol. Rydym wedi gweld y rhwystredigaeth a'r dicter yn sgil ymgyrch Marcus Rashford. Gadewch inni gael trefn ar hyn. Edrychwch ar eich cyllid canlyniadol ar gyfer COVID nad yw wedi cael ei ddyrannu; a oes cyfraniad yno? Gwyddom fod COVID wedi chwyddo problemau tlodi yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn galw’n glir am hyn. Mae cynghorwyr Llafur yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cefnogi cynnig gan Blaid Cymru sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teuluoedd sy’n derbyn credyd cynhwysol. Mae'n bryd i'r Llywodraeth Lafur weithredu ar hyn.