Busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:20, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy'r cyfnod anodd ofnadwy hwn, ac rydym wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r DU. Hyd yn hyn, mae’r cynllun grant ardrethi busnes COVID wedi dyfarnu 2,616 o grantiau i fusnesau ledled Sir y Fflint, sef cyfanswm o fwy na £31.3 miliwn.