Cyllideb yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:15, 13 Ionawr 2021

Wel, dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod adroddiad Archwilio Cymru wedi amlygu problemau gyda sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dosbarthu pres y cynllun datblygu gwledig. Mi glywon ni yn gynharach sut rŷch chi nawr yn mynd i orfod talu £3 miliwn yn ôl i'r Undeb Ewropeaidd oherwydd camweinyddu'r pres hwnnw. Gaf i ofyn, yn eich trydedd gyllideb atodol, felly, i chi dalu hwnnw o goffrau canolog y Llywodraeth? Oherwydd mi awgrymoch chi'n gynharach y byddai hwnnw'n gorfod dod o gyllideb y Gweinidog. Nawr, byddai hynny'n meddwl, wrth gwrs, bod yna rywbeth arall yng nghyllideb y Gweinidog sydd ddim yn gallu cael ei ariannu oherwydd bod yr arian yn mynd at hwnnw, a'r hyn y byddech chi'n ei wneud, i bob pwrpas, ydy cosbi cefn gwlad yn ariannol oherwydd methiannau'ch Llywodraeth chi.