Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch, Laura. Mae'r ystod o fesurau i gefnogi dysgu o bell yn cynnwys dysgu proffesiynol helaeth, buddsoddiad sylweddol mewn dyfeisiau, a'r rhaglen ddysgu carlam £29 miliwn ar ei newydd wedd. Gan adeiladu ar ganllawiau i gefnogi dysgu cyfunol, cyhoeddwyd canllawiau pellach heddiw i alluogi ysgolion i gefnogi dysgwyr yn effeithiol.