Cysondeb Dysgu o Bell

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:56, 13 Ionawr 2021

Ers i fi osod y cwestiwn yma, wrth gwrs, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd wedi cael rhywbeth i'w ddweud ar y mater yma, ac mae hi wedi disgrifio dysgu ar-lein fel rhywbeth sydd yn fratiog ac yn anghyson, ac mae yna anghysondebau dybryd rhwng nid yn unig awdurdodau addysg gwahanol, ond rhwng ysgolion unigol oddi fewn i awdurdodau addysg hefyd, a dwi ddim jest yn sôn fan hyn am fynediad i gyfarpar a chysylltedd; mae yna anghysondeb o ran faint o oriau dysgu y mae disgwyl i blant wneud bob dydd, pa fath o waith y gellir ei ddisgwyl, pa blatfformau digidol sy'n cael eu defnyddio. Mae rhai yn cael gwersi ar-lein wyneb yn wyneb; mae rhai ddim a dim ond yn cael taflenni gwaith i'w cwblhau. Nawr, dwi ddim yn gwybod os ŷch chi'n cytuno, felly, gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol y dylech chi fod wedi gwneud mwy i sicrhau gwell cysondeb ar draws Cymru trwy roi gwell arweiniad ar hyn i ysgolion ac awdurdodau lleol fel Llywodraeth, oherwydd canlyniad yr anghysondeb yma yw bod gennym ni ryw fath o loteri cod post, lle mae rhai plant ar eu hennill a rhai plant ar eu colled, a'r cyfan mae hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yw dwysáu'r anghydraddoldebau sydd eisoes yn rhy amlwg o fewn y gyfundrefn addysg yng Nghymru ar hyn o bryd.