Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr iawn, Mandy. Mae COVID-19 wedi cael effaith fawr ar addysg, gan gynnwys y newid presennol i ddysgu ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o'n plant. Comisiynais Estyn i gynnal adolygiad o ddulliau awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o gefnogi dysgu a dysgwyr sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.