Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch am y Cwestiwn. Fel Comisiwn, rŷn ni wedi bod yn dysgu gwersi o'r dulliau newydd o weithio wrth ymateb i’r pandemig. Mae hyn wedi caniatáu inni barhau i gynorthwyo i gynnal busnes y Senedd, ar ffurfiau rhithwir a hybrid, yn ogystal â gwaith yr Aelodau yn y Senedd a'u swyddfeydd etholaethol. Yn y gwanwyn, bydd cyfarfod y Comisiwn yn ystyried gwerthuso yr hyn a ddysgwyd yn ystod y pumed Senedd, yn enwedig y flwyddyn ddiwethaf yma, a defnyddio yr hyn a ddysgwyd i baratoi ar gyfer y chweched Senedd.