Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 13 Ionawr 2021.
Y llynedd, cafodd adnoddau addysg eu cynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg. Addaswyd y rhain yn ddiweddarach ar gyfer dysgu gartref oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ac fe'u cynigir yn uniongyrchol i ysgolion hefyd drwy blatfform Hwb. Ers dechrau tymor yr hydref, mae ein tîm addysg wedi bod yn cyflwyno sesiynau rhithwir i ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru a byddant yn parhau i wneud hynny.