Ymgysylltu â Phleidleiswyr Newydd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:24, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, ffug etholiad 1983 yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan oedd yr etholiad cyntaf imi gymryd rhan ynddo, amser maith yn ôl, ac roedd hwnnw’n brofiad uniongyrchol iawn. Nid wyf am rannu gyda chi nawr pa blaid wleidyddol y sefais drosti ar y pryd, ond rwyf wedi dysgu o fy nghamgymeriadau ers hynny. Ond hoffwn ddweud bod rôl uniongyrchol ethol ac etholiadau mewn cyd-destun y mae'r bobl ifanc yn gyfarwydd ag ef, a chysylltu hynny â'r byd go iawn—gwyddom fod cynghorau ysgol ac ysgolion cynradd a llawer o bobl ifanc yn ymwneud â democratiaeth mewn gwahanol ffyrdd eisoes. Rwy'n credu eich bod yn awgrymu syniad diddorol ynglŷn â ffurfioli hynny ychydig yn fwy na fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae’n debyg. Fel rydych wedi awgrymu, mae'n debyg ei bod yn rhy hwyr ar gyfer y set hon o etholiadau’r Senedd, ond yn sicr, credaf ei fod yn rhywbeth y gallem ei ystyried yn y dyfodol. Yn sicr, byddai gennyf ddiddordeb mewn gofyn i Gomisiwn y dyfodol archwilio hynny ar gyfer etholiadau yn y dyfodol. Gyda llaw, fi enillodd yr etholiad yn 1983 yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan.